Cofrestru Anifeiliaid sy'n Perfformio

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith bod unrhyw un sy'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid perfformio yn cael eu cofrestru. 

Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gofrestru gyda'r Cyngor os ydych chi'n hyfforddi neu'n arddangos anifeiliaid perfformio, er enghraifft ar gyfer hysbysebion, ffilmiau neu'r syrcas. 

O dan Ddeddf (Rheoli) Anifeiliaid Perfformio 1925, mae gan yr heddlu a swyddogion awdurdodau lleol, a allai gynnwys milfeddyg, bwerau i gael mynediad i eiddo lle y mae anifeiliaid yn cael eu hyfforddi neu eu harddangos. Os ydynt yn darganfod creulondeb neu esgeulustod, gallant wneud cais i Lys Ynadon er mwyn atal neu gyfyngu ar hyfforddi neu arddangos yr anifeiliaid ac atal neu ddiddymu'r cofrestriad a ganiatawyd o dan y Ddeddf. 

Mae cofrestru anifeiliaid perfformio yn helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer y safleoedd a lefel y gofal a roddir. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd o ran diogelwch, a daw milfeddyg gyda ni lle bo hynny'n briodol er mwyn sicrhau y cyrhaeddir safonau lles anifeiliaid. 

Os hoffech chi gofrestru’n fusnes anifeiliaid sy’n perfformio, a fyddech cystal â lawr lwytho’r ffurflenni cais a gwybodaeth. Gweler hefyd y ffioedd cyfredol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghych anifail perfformio, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Hefyd, gallwn fwrw golwg ar y safonau gofal ar gyfer anifeiliaid perfformio yn gyffredinol gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid. 

Gall yr heddlu neu swyddog o'r awdurdod lleol gyflwyno cwyn i'r Llys Ynadon lleol os yw'n teimlo bod anifeiliaid wedi cael eu trin yn greulon.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

Ebost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig