Trwydded Siop Anifeiliaid Anwes - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Siop Anifeiliaid Anwes
Crynodeb o'r Drwydded

Er mwyn rhedeg busnes sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cynnwys pob enghraifft o werthu anifeiliaid anwes yn fasnachol, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau sy'n gwerthu anifeiliaid dros y we.

 

Ni chaiff pobl sy'n gwneud cais am drwydded siop anifeiliaid anwes fod wedi'u gwahardd rhag cadw siop o'r fath, a bydd angen iddynt gydymffurfio ag unrhyw amodau sy'n cael eu gosod fel rhan o'r drwydded.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Crynodeb o’r rheoliad sy’n ymwneud â’r drwydded hon

Sut i ymgeisio

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded Siop Anifeiliaid Anwes neu newid manylion trwydded bresennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais o'r fan hon.

 

Mae copi o amodau trwydded safonol Torfaen i'w gael yn y fan hon.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi cyflwyno'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg er mwyn asesu safonau eich safle.

 

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol bwyso a mesur y canlynol wrth ystyried cais am drwydded siop anifeiliaid anwes:

 

  • y bydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas, er enghraifft o ran tymheredd, maint, golau, awyr iach a glendid 
  • y bydd bwyd a diod digonol yn cael eu rhoi i'r anifeiliaid ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd 
  • na chaiff unrhyw anifeiliaid mamalaidd eu gwerthu'n rhy ifanc 
  • y bydd camau'n cael eu cymryd i atal clefydau rhag lledaenu ymhlith yr anifeiliaid
  • bod darpariaethau digonol ar waith os digwydd tân ac argyfyngau

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn i chi gydymffurfio â'r amodau trwyddedu.

 

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn cynnal arolygiad blynyddol ar adeg adnewyddu'ch trwydded, a gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

 

Sylwch, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan fel y gall cwsmeriaid ddewis safle trwyddedig i brynu eu hanifail anwes. Hefyd, gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwch, gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau arolygu angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a osodir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf.

 

Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. 

 

Gall unrhyw ddeiliad trwydded gyflwyno apêl i'r Llys Ynadon os caiff ei gais ei wrthod neu os yw'n gwrthwynebu amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded, a gallai'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch cyflwyno trwydded neu amod.

Cymdeithasau Masnach

Yr Ymddiriedolaeth Gofal Anifeiliaid Anwes (PCT)

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig