Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol bod angen trwydded ar unrhyw un sy'n bridio tri neu fwy o dorllwythi o gŵn bach mewn cyfnod o 12 mis. Mae'n ofynnol bod trwydded gan unrhyw un sy'n bridio cŵn at ddibenion masnachol, p'un a ydynt mewn adeilad masnachol neu ddomestig.

Mae hyn yn golygu bod RHAID i unrhyw un sy'n bridio cŵn er budd masnachol gael trwydded gan yr awdurdod lleol cyn iddynt gychwyn ar eu busnes.

Mae person a geir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn atebol, dan euogfarn ddiannod, i gyfnod mewn carchar am dymor nad yw'n hwy na chwe mis, dirwy nad yw'n fwy na £5000, neu'r ddau.

Mae trwyddedau'n ddilys am gyfnod o 12 mis a rhaid eu hadnewyddu cyn eu dyddiad dod i ben.

Cyn rhoi trwydded i ymgeisydd rhaid iddo allu dangos

  • Y bydd y cŵn bob amser yn cael eu cadw mewn llety sy'n addas o ran gwneuthuriad, maint, nifer yr anifeiliaid a gedwir yno, cyfleusterau ymarfer, tymheredd, golau, awyr iach a glendid.
  • Y bydd y cŵn yn cael cyflenwad digonol o fwyd, diod a deunydd gwely addas, yn cael eu hymarfer yn ddigonol, ac yr ymwelir â nhw'n ddigon mynych (i'r graddau y bo angen hynny).
  • Y cymerir pob rhagofal rhesymol i atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus neu glefydau cyffwrdd-ymledol ymhlith y cŵn, gan gynnwys darparu cyfleusterau cadw ar wahân.
  • Y bydd camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r cŵn os digwydd tân neu argyfwng arall, gan gynnwys darparu offer addas a digonol i ymladd tân.
  • Y bydd yr holl gamau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau y bydd bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu i'r cŵn, a'u bod yn cael digon o ymarfer, wrth eu cludo i'r sefydliad bridio neu oddi yno.

Mae ychydig o bwyntiau perthnasol eraill i'w nodi ynglŷn â'r drwydded:

  • Ni chaniateir bridio geist tan eu bod yn 12 mis oed o leiaf.
  • Ni chaniateir i unrhyw ast gael mwy na 6 thorllwyth yn ystod ei hoes.
  • Ni chaniateir i unrhyw ast eni cŵn bach o fewn 12 mis o gael torllwyth flaenorol.
  • Yn achos pob trwydded gyntaf, bydd y safle yn cael arolygiad gennym ni a milfeddyg.
  • Gallwn gynnal arolygiadau dilynol ar ein pen ein hunain, ond gallwn alw milfeddyg os ydym o'r farn bod angen gwneud hynny.
  • Ni chaiff bridiwr trwyddedig werthu ci i aelod o'r cyhoedd os yw o'r farn y bydd yr unigolyn hwnnw'n gwerthu'r ci ymlaen i rywun arall.
  • Ni cheir gwerthu cŵn os ydynt o dan 8 wythnos oed heblaw i siop anifeiliaid anwes drwyddedig.

Dylid brechu pob ci er mwyn atal a rheoli lledaeniad clefydau heintus a chlefydau cyffwrdd-ymledol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylid brechu pob ci yn erbyn:

  • Clefyd y Cŵn;
  • Hepatitis Heintus mewn Cŵn;
  • Leptosbirosis; a
  • Pharfofeirws cŵn.

Mae'r gyfraith yn golygu nad yw pob bridiwr cŵn wedi'i drwyddedu – yn benodol, gall rhai pobl sy'n arbenigo mewn bridio cŵn o dras gael eu heithrio o'r gyfraith. Yn anffodus, rydym yn gwybod bod rhai bridwyr yn defnyddio'r bwlch hwn yn y gyfraith i redeg busnesau bridio cŵn sy'n herio'r gyfraith ar les anifeiliaid, ac mae bron yn amhosibl i ni ddarganfod y rhain a chymryd camau yn eu herbyn ar hyn o bryd.

Os byddwch chi'n prynu ci bach, mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio safle cyfreithlon a dylech BOB AMSER ymweld â'r bridiwr yn ei gartref i weld sut cafodd y ci bach ei fridio a'i fagu.

Peidiwch BYTH â phrynu ci bach oddi wrth rywun mewn ffair neu wrth ochr y ffordd – y tebyg yw i'r ci bach gael ei fridio'n anghyfreithlon heb fawr ddim sylw i les anifeiliaid. Mae llawer o bobl sy'n prynu cŵn bach yn y modd hwn yn wynebu biliau milfeddyg sy'n gallu dod i filoedd o bunnoedd.

Gallwch gysylltu â ni i gael manylion safleoedd trwyddedig a phobl eraill sy'n bridio cŵn yn gyfreithlon yn ardal Torfaen.

Mae trwyddedau Bridio Cŵn yn helpu i sicrhau bod cŵn yn cael gofal priodol, trwy osod safonau ar gyfer safleoedd a lefel y gofal a roddir. Yn benodol, mae'n sicrhau bod geist sy'n bridio yn cael eu trin yn briodol, a bod y cŵn bach yn cael gofal da. Rydym yn arolygu'r safleoedd hyn yn rheolaidd o ran diogelwch, a daw milfeddyg gyda ni i sicrhau eu bod yn cyflawni safonau lles anifeiliaid.

Ar hyn o bryd, dim ond bridio cŵn sy'n cael sylw penodol yn y gyfraith ar drwyddedu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch safle trwyddedig, neu'n pryderu y gallai safle fod yn bridio cŵn heb drwydded, cysylltwch â ni fel y gallwn ymchwilio a gweithredu fel bo'r angen. Gallwn archwilio safonau gofal ar gyfer anifeiliaid anwes heblaw am gŵn hefyd, gan ddefnyddio ein pwerau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Gwneud Cais am Drwydded

Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych yn dymuno bridio cŵn er mwyn gwneud elw masnachol, bydd angen i chi gael trwydded bridio cŵn cyn i chi ddechrau eich busnes a chynnal y drwydded honno drwy gydol yr adeg pan fyddwch yn rhedeg eich busnes.

Nodir isod y wybodaeth y mae ei hangen arnoch er mwyn penderfynu a oes angen trwydded arnoch, ynghyd â manylion y safonau trwyddedu y mae'n rhaid i chi eu cyflawni.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Sut i wneud cais

Cysylltwch â ni cyn gwneud cais am drwydded fel y gallwn gynghori am y gofynion a'r amodau y bydd angen i chi eu bodloni.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio.

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o wneud cais am drwydded yn gymharol syml. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg er mwyn asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio â'r amod trwyddedu.

Pan fydd eich safle wedi'i drwyddedu, byddwn yn cynnal arolygiad blynyddol ar adeg adnewyddu eich trwydded, a gallwn gynnal ymweliadau yn y cyfamser hefyd. Fel rhan o broses y drwydded, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch busnes.

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan fel y gall cwsmeriaid ddewis safle trwyddedig i brynu eu hanifail anwes. Hefyd, gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

Sylwer, gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod, er mwyn caniatáu am y prosesau arolygu angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais.

Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. Mae gwybodaeth bellach am wneud cwyn i'w chael yn y fan hon.

Gall trwyddedau gael eu gwrthod, eu canslo neu eu diddymu am sawl rheswm (sylwer nad yw pob cyfyngiad yn berthnasol i bob trwydded). Gallai'r Llysoedd wahardd ymgeiswyr rhag dal trwydded anifeiliaid am gyfnod penodedig:

  • Os yw'r ymgeisydd o dan 18 oed
  • Os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag dal trwydded anifeiliaid neu gadw anifail
  • Os na chaiff amodau'r drwydded eu bodloni

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.