Priodi mewn man addoli crefyddol

Gall Seremoni Briodas grefyddol ddigwydd mewn adeilad crefyddol sydd wedi cofrestru ar gyfer addoli a gweinyddu Priodas. Os ydych yn bwriadu cynnal seremoni o'r math hwn, yna bydd angen i chi wneud y trefniadau canlynol:

Eglwys Lloegr a'r Eglwys yng Nghymru

Os ydych yn dymuno priodi mewn Eglwys Anglicanaidd (Eglwys Lloegr, Yr Eglwys yng Nghymru) bydd angen i chi gysylltu â'r ficer yn gyntaf. Os yw ef / hi yn cytuno i’ch priodi chi, byddant yn trefnu i gyhoeddi'r gostegion, neu i Drwydded Gyffredin gael ei gyhoeddi.

Yna bydd y seremoni yn cael ei gofrestru gan y ficer ac fel arfer does dim angen cynnwys y swyddfa gofrestru leol yn y broses. Os bydd angen cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru, bydd y ficer yn eich hysbysu o hyn.

Mannau Eraill Addoli

Os ydych yn dymuno priodi trwy seremoni grefyddol mewn unrhyw le arall heblaw Eglwys Lloegr / Yr Eglwys yng Nghymru, yna dylech yn gyntaf gysylltu â'r gweinidog sy’n gysylltiedig â'r adeilad i drafod trefniadau. Os ydynt yn cytuno i gynnal eich gwasanaeth ar y diwrnod, yna bydd angen i chi gysylltu â'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle rydych yn byw i drefnu rhoi hysbysiad o’r briodas.

Dylech sefydlu cyn yr apwyntiad rhoi hysbysiad, os oes gan yr eglwys lle byddwch yn cynnal eich seremoni, berson awdurdodedig ar gael i gofrestru. Os na, yna byddai angen i chi archebu cofrestrydd i fod yn bresennol.

Mae hi ond yn bosibl priodi mewn adeilad crefyddol sydd wedi ei leoli yn yr ardal lle mae un neu'r ddau ohonoch yn byw. Efallai y byddwch, fodd bynnag, yn priodi mewn adeilad crefyddol mewn ardal arall, os mai dyma yw eich man addoli arferol. Cysylltwch â'r cofrestryddion am arweiniad os nad yw hynny’n wir.

Partneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol

Gall partneriaethau sifil gael eu cofrestru mewn adeilad crefyddol sydd wedi cael ei gymeradwyo yn arbennig. Yna, efallai ar ôl cofrestru byddwch yn cael Seremoni grefyddol ar wahân. Cysylltwch â'r swyddfa os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â hyn.

Os ydych chi neu'ch partner yn destun rheolau mewnfudo, gweler - Hysbysiad o Briodas/Partneriaeth Sifil

Noder: Nid ydych yn gallu cynnal priodas un rhyw mewn Eglwys Anglicanaidd.

Sut y byddwch yn gallu cael Tystysgrif Priodas

Dim ond ar ôl i'ch manylion gael eu rhoi ar y gofrestr briodas electronig yn y Swyddfa Gofrestru y gellir rhoi Tystysgrif Priodas. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cael Tystysgrif Priodas ar ddiwrnod eich priodas. Bydd eich manylion yn cael eu nodi ar y gofrestr electronig cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi lofnodi'ch Ffurflen /Dogfen Briodas.

Ar ôl yr amser hwn, os oes angen Tystysgrif Priodas arnoch, bydd angen i chi ffonio'r tîm cofrestryddion ar 01495 742132, i wneud cais ac archebu eich Tystysgrif Priodas. Y gost yw £11.00 y dystysgrif, gellir cymryd taliad cerdyn debyd neu gredyd ar yr adeg hon.

Os hoffech gael unrhyw arweiniad pellach, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd y staff yn hapus i helpu.

Diwygiwyd Diwethaf: 21/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestrwyr

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig