Rhoi Hysbysiad o Briodas/Partneriaeth Sifil
Beth yw Hysbysiad Priodas/Partneriaeth Sifil?
Datganiad cyfreithiol o'ch bwriad i ymrwymo i briodas neu ffurfio Partneriaeth Sifil yw hysbysiad.
Rhaid rhoi rhybudd p’un ai ydych am gynnal eich seremoni mewn Swyddfa Gofrestru, Safle Cymeradwy neu le ar gyfer Addoliad Crefyddol. SYLWER: Mae Eglwys Loegr a'r Eglwys yng Nghymru yn gyffredinol yn cyhoeddi Gostegion yn hytrach na rhoi rhybudd (gweler y canllawiau isod).
Os ydych chi'n bwriadu cynnal eich seremoni dramor, yna byddai angen i chi ymgynghori ag awdurdodau'r wlad honno ymlaen llaw, i sicrhau eich bod yn cael y ddogfennaeth gywir o'r DU.
Mae apwyntiad hysbysiad yn cymryd tua 30 munud y person i'w gwblhau.
Ble a phryd y gellir rhoi rhybudd?
Mae'r gofynion yn wahanol yn dibynnu ar eich cenedligrwydd:
Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu o'r AEE sydd â statws Cynllun Preswyliad Sefydlog yr UE (EUSS) a roddwyd neu a wnaed cais amdano cyn 30 Mehefin 2021
- Rhaid i’r ddau/ddwy ohonoch roi hysbysiad o’ch priodas neu bartneriaeth sifil yn y Swyddfa Cofrestru yn yr ardal ble rydych wedi byw am y 7 diwrnod llawn cyn dyddiad yr apwyntiad hysbysiad.
- Os yw’r ddau/ddwy ohonoch yn byw yn Ardal Gofrestru Torfaen, gallwch drefnu apwyntiad dwbl a dod gyda’ch gilydd, neu gallwch drefnu apwyntiadau hysbysiad unigol a dod ar wahân..
Os yw un neu’r ddau ohonoch yn ddinesydd nad sydd o’r AEE, neu’n ddinesydd yr AEE heb statws Cynllun Preswyliad Sefydlog yr UE (EUSS)
- Mae’n rhaid bod un ohonoch chi wedi byw yn Ardal Gofrestru Torfaen am 7 diwrnod llawn yn union cyn rhoi hysbysiad
- Rhaid i chi drefnu apwyntiad hysbysiad dwbl a dod gyda’ch gilydd
- Sylwch: Gellir rhoi hysbysiad hyd at flwyddyn cyn dyddiad y Briodas/Partneriaeth Sifil, ond nid yn llai na 28 diwrnod cyn dyddiad y Seremoni
Beth os ydym yn priodi mewn eglwys neu adeilad crefyddol?
Os ydych chi'n bwriadu priodi yn Eglwys Loegr neu'r Eglwys yng Nghymru, rhaid i chi gyflawni'r gofynion cyfreithiol trwy Ostegion neu Drwydded Gyffredin (gwiriwch gyda'ch Eglwys). Fodd bynnag, pan fo un neu'r ddau/ddwy ohonoch yn ddinasyddion nad ydych yn ddinasyddion yr AEE neu'n ddinasyddion AEE heb statws EUSS, bydd gofyn i chi roi eich hysbysiad o briodas gyda'ch gilydd mewn swyddfa gofrestru mewn ardal yng Nghymru neu Loegr lle mae un neu'r ddau/ddwy ohonoch wedi byw am 7 diwrnod llawn cyn dyddiad yr hysbysiad.
Os ydych yn dymuno priodi mewn unrhyw enwad ffydd arall, rhaid i un neu'r ddau/ddwy ohonoch fyw yn yr ardal lle mae'r man addoli wedi'i leoli.
Os ydych chi'n ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu o’r AEE gyda EUSS wedi'i ganiatáu neu a chais wedi’i wneud amdano cyn 30 Mehefin 2021, rhaid i chi roi eich hysbysiad yn yr ardal lle rydych chi wedi byw am y 7 diwrnod llawn cyn dyddiad eich apwyntiad hysbysiad
Os yw un neu'r ddau/ddwy ohonoch yn ddinasyddion nad ydych yn ddinasyddion yr AEE neu'n ddinasyddion yr AEE heb statws EUSS, yna rhaid i chi drefnu apwyntiad dwbl yn yr ardal lle mae un ohonoch wedi byw am y 7 diwrnod llawn cyn dyddiad eich apwyntiad
Yn y lle cyntaf, dylech wirio gyda'r eglwys neu'r man addoli rydych chi am briodi ynddo i weld a ydynt ar gael ar gyfer y dyddiad rydych chi'n ei ystyried ac i gadarnhau beth sy'n ofynnol a hefyd a oes angen trefnu Cofrestrydd i fynychu'r seremoni er mwyn cofrestru'r briodas.
Pa ddogfennau sydd eu hangen i roi Hysbysiad?
Pan fyddwch yn gwneud apwyntiad i roi hysbysiad, bydd y swyddog cofrestru’n eich cynghori ar y dogfennau y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol. Mae'r dogfennau sy'n ofynnol yn cael eu pennu gan y gyfraith ac mae'r gofynion hyn ychydig yn wahanol yn dibynnu ar eich cenedligrwydd. Rhaid i bob dogfen fod yn wreiddiol; ni allwn dderbyn fformat electronig. Efallai na fyddwch yn gallu rhoi hysbysiad cyfreithiol oni bai eich bod yn gallu darparu'r dogfennau angenrheidiol, felly rhaid trafod hyn gyda'r swyddog cofrestru cyn dod i’r Swyddfa Gofrestru.
Beth sy'n digwydd ar ôl i fy Hysbysiad gael ei roi?
Rhaid i'ch hysbysiad gael ei arddangos yn gyhoeddus am 28 diwrnod clir cyn y gellir cyhoeddi amserlen priodas neu bartneriaeth sifil. Fodd bynnag, os yw un neu'r ddau barti i'r briodas / partneriaeth sifil yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo, gall y Swyddfa Gartref ymestyn y cyfnod aros cyfreithiol hwn i 70 diwrnod.
Faint mae'n ei gostio i roi Hysbysiad?
Y ffi statudol yw £46.50 y pen ac mae'n £63 y pen os yw’r cwpl yn destun cynllun atgyfeirio ac ymchwilio'r Swyddfa Gartref.
Os hoffech archebu seremoni neu os oes angen unrhyw arweiniad pellach arnoch chi, cysylltwch â'r swyddfa ar 01495 742132 neu e-bostiwch: registrars@torfaen.gov.uk lle bydd staff yn hapus i helpu.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/05/2026
Nôl i’r Brig