Mynwent Llwyncelyn

Lleoliad

Llwyncelyn Drive, Llwyncelyn, Cwmbrân, Torfaen, NP44 7PF

Amserau agor

Bydd gatiau'r fynwent yn cael eu hagor a'u cau tua’r amserau canlynol: 

  • Yn ystod yr haf: agor 9am - cau 7pm
  • Pob amser arall: agor 9am - cau 5pm

Cyrraedd yno

Mae mannau parcio, gan gynnwys parcio i'r anabl a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, o flaen Swyddfa'r Fynwent>

I gael gwybodaeth am lwybrau bysiau, rhowch glic ar Traveline Cymru 

Mae Gorsaf Reilffordd Cwmbrân tua 3 milltir i ffwrdd

Mae’r fynwent ger Camlas Mynwy ac Aberhonddu, ac mae’r llwybr tynnu yn rhan o Lwybr Beicio Cenedlaethol 492

Gwybodaeth ychwanegol

Mae swyddfa Gwasanaeth y Fynwent ym Mynwent Llwyncelyn. Mae ar agor rhwng 8am a 4pm, dydd Llun i ddydd Iau, ac 8am i 3.30pm ar ddydd Gwener. Mae'r swyddfa ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Mae toiledau cyhoeddus ar gael. Mae’r amseroedd agor yr un fath â'r swyddfa.

Mae Mynwent Llwyncelyn yn cynnig yr opsiynau claddu canlynol: 

  • Beddau lawnt - gyda chofebion
  • Beddau ag ymylfaen - gyda chofebion
  • Beddau gweddillion a amlosgwyd - gyda chofebion
  • Ardal bwrpasol i fabanod - gyda chofebion
  • Ardal gladdu’r ddôl - ni chaniateir cofebion
  • Gardd Orffwys lle gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd

Mae ardaloedd Claddu’r Ddôl a’r Ardd Orffwys ym mynwent Llwyncelyn yn rhan o'r Warchodfa Natur Leol ddynodedig, sydd â gwerth ecolegol uchel, felly ni chaniateir cofebion na blodau yn yr ardal hon.

Mae wal goffa a phlaciau gyda ffiolau y gellir eu prydlesu am 10 mlynedd. Cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent i gael mwy o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/03/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddfa Mynwent

Ffôn: 01495 766150

E-bost: cemeteryenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig