Personoli Beddau
Rydym yn deall bod beddau yn lleoedd pwysig ble y gall perthnasau a theuluoedd gofio eu hanwyliaid.
Caniateir yr eitemau canlynol i bersonoli beddau:
- Planhigion llysieuol hyd at 50cm wedi eu plannu y naill ochr i gerrig beddau’r lawnt goffa
- Blodau neu blanhigion mewn cynwysyddion naill ochr i gerrig beddau’r lawnt goffa
- Tuswau o flodau dros dro i nodi achlysuron arbennig (cysylltwch â’r swyddfa i drafod)
- Cofebion gan seiri maen cofrestredig BRAMM (rhaid bodloni gofynion o ran maint).
- Addurniadau bach (nid rhai gwydr na seramig)
- Tuswau tymhorol
Ni chaniateir yr eitemau canlynol ar feddau am resymau diogelwch ac amgylcheddol ac i sicrhau bod y fynwent yn fan tawel:
- Eitemau ar y borfa o flaen neu y tu ôl i gofebion/gerrig beddau
- Eitemau sy’n symud, goleuo neu’n gwneud sŵn
- Ffensys, ymylon, canhwyllau heb oruchwyliaeth
- Eitemau gwydr, seramig gan fod y rhain yn gallu torri/difrodi’n hawdd
- Glaswellt artiffisial
- Addurniadau pigog mewn ardaloedd babanod/ lle mae lludw yn dilyn amlosgiad
- Hongian eitemau ar goed neu lwyni
Ble alla i osod eitemau?
Os yw eich anwylyd wedi'i gladdu mewn bedd lawnt, gallwch roi eitemau bob ochr i'r gofeb.
Os oes ganddynt fedd ag ymyl, rhaid rhoi’r eitemau y tu fewn i’r ymylon.
O ran gweddillion a amlosgwyd:
- Blaenafon – y naill ochr i'r gofeb yn unig
- Llwyncelyn a Phanteg – y naill ochr i’r gofeb ac ar y cerrig man ar y blaen (heb gyffwrdd y beddau eraill)
O ran beddau babanod:
- Llwyncelyn – y naill ochr i'r gofeb ac ar y cerrig man ar y blaen (heb gyffwrdd y beddau eraill)
- Blaenafon – y naill ochr yn unig
Eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu
Cysylltir â pherchnogion beddau yn ysgrifenedig a gofyn iddynt symud unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu. Bydd unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu symud yn cael eu cymryd i ffwrdd a'u cadw mewn storfa am fis.
Bydd unrhyw eitemau pellach nad ydynt yn cael eu caniatáu ar y bedd yn cael eu symud heb rybudd.
Bydd unrhyw eitemau ger beddau, gan gynnwys mewn coed a gwrychoedd, yn cael eu symud gan staff y fynwent.
Bydd y staff yn tynnu torchau Nadolig oddi ar feddau ar ôl 31 Ionawr.
Cofebion
Gall saer maen coffa gynghori ar gofebion addas ar gyfer y fynwent o’ch dewis. Cyfrifoldeb perchennog y bedd yw cynnal cofeb. Dylai unrhyw waith lanhau neu atgyweiriadau gael ei wneud gan saer maen coffa.
Os bydd staff y fynwent yn gweld cofeb sy'n edrych yn ansefydlog, am resymau iechyd a diogelwch, byddant yn ei osod yn wastad ar y bedd.
I ofyn am arysgrif ar gofeb neu arysgrif ychwanegol, bydd angen i chi gysylltu â saer maen cofrestredig (BRAMM) .
I brynu plac coffa ar fainc y fynwent, cysylltwch â Swyddfa'r Fynwent.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/02/2026
Nôl i’r Brig