Argyfwng Wcráin

Cynnig llety

Mae Llywodraeth y DU wedi creu dau lwybr fisa newydd i bobol o’r Wcráin:

  • Cynllun i Deuluoedd Wcráin - Dyma lle mae teulu o Wcrain, sydd yn byw yn y DU ar hyn o bryd yn noddi eu perthnasau i fyw gyda nhw.
  • Cynllun Cartrefi i’r Wcráin - Y llwybr i bobl sy'n ffoi o'r Wcráin nad oes ganddyn nhw gysylltiadau teuluol ag unrhyw un yn y DU.

Dyluniodd Llywodraeth y DU y cynllun i alluogi unigolion, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau i gynnig llety am o leiaf chwe mis, a pharu hwnnw â phobl o’r Wcráin sydd am ddod i’r DU. Mae angen i'r noddwr a'r person o'r Wcráin gysylltu y tu allan i'r system ac enwebu ei gilydd yn ystod y broses ymgeisio. Mae sefydliad o’r enw RESET wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth y DU i helpu i hwyluso cysylltiadau rhwng pobl o’r Wcráin a noddwyr sydd heb unrhyw gysylltiadau blaenorol.

Mynnwch mwy o wybodaeth yma: https://homesforukraine.campaign.gov.uk/ 

Cofrestrwch eich diddordeb yma: https://www.gov.uk/register-interest-homes-ukraine

Cynllun Uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru

Bydd hyn yn gweithio ochr yn ochr â Chynllun Cartrefi i'r Wcráin. O ddydd Sadwrn 26 Mawrth ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol i ddod i’r DU. Bydd hyn drwy broses cyrraedd ac integreiddio strwythuredig yng Nghymru, a reolir i ddechrau gan bobl sy’n dod i Ganolfannau Croeso a fydd wedyn yn mynd ymlaen i lety tymor canolig a hwy, gan gynnwys drwy’r cynigion ‘cynnal’ gan bobl yng Nghymru.

I gael gwybod mwy: https://gov.wales/written-statement-homes-ukraine-refugees-scheme-update

Os ydych wedi cofrestru gyda chynlluniau’r Llywodraeth ac yn aros am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol ar 01495 766097 neu support.ukraine@torfaen.gov.uk. Nid yw’n ofyniad gorfodol, ond rydym yn llunio rhestr o noddwyr â diddordeb i fod mewn sefyllfa i gynnig cymorth pan fydd teuluoedd yn cyrraedd Torfaen.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y ffordd yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn ein Hysbysiad Preifatrwydd Cynlluniau Ffoaduriaid o Wcráin

Cyfraniadau ariannol

Y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau

Mae Y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn darparu cymorth dyngarol ar frys i deuluoedd sy'n ffoi rhag y gwrthdaro.

Mae eich rhodd gyfan yn mynd i elusennau, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig ac Oxfam, sydd ar y ffiniau y mae pobl Wcrain wedi ffoi iddynt - ac ar flaen y gad yn Wcrain ei hun.

Y peth pwysicaf y gall unrhyw un ei wneud i helpu yn yr argyfwng hwn yw cyfrannu arian. Dywed y Groes Goch mai rhoddion arian parod yw'r ffordd gyflymaf, fwyaf diogel a mwyaf uniongyrchol o bell ffordd i helpu pobl mewn argyfwng dyngarol. Does dim gwahaniaeth faint allwch chi ei fforddio – mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth.

Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi arian cyfatebol am bob punt gan y cyhoedd, hyd at £20 miliwn o bunnoedd, sy’n golygu y bydd eich cefnogaeth yn mynd hyd yn oed ymhellach.

I gyfrannu, ewch i www.dec.org.uk 

UNICEF

Mae UNICEF yn gofidio’n arw am ddiogelwch a lles plant sydd wedi gwahanu oddi wrth eu teuluoedd, ac maent yn gweithio’n ddyfal i gadw teuluoedd yn ddiogel.

I gefnogi eu gwaith ewch i’w gwefan: www.unicef.org.uk 

Neu fe allwch roi cyfraniad dros y ffôn: 0300 330 5699.

Cyfrannu eitemau

Nid yw pawb yn gallu rhoi arian, felly mae gan y Groes Goch gyngor gwych i bobl a hoffai gyfrannu eitemau.

Mae sefydliadau lleol yn y DU sy’n casglu pethau, fel dillad a blancedi sydd yn aml â chysylltiadau â sefydliadau sy’n bartneriaid yn Wcrain neu mewn gwledydd ar y ffin.

Os oes gennych eitemau yr hoffech ru rhoi, maent yn awgrymu eich bod yn:

  • Chwilio am unrhyw elusen leol a allai fod yn casglu
  • Gofyn beth sydd ei angen arnynt fel y gallwch gyfrannu'r eitemau cywir
  • Gofyn a allant gludo'r eitemau cyn eu rhoi iddynt

Gwybodaeth ynghylch Iechyd

Diwygiwyd Diwethaf: 07/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol

Ffôn: 01495 766097
E-bost: support.ukraine@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig