Cartrefi i Wcráin yn Nhorfaen

Yn gyntaf, os ydych chi’n ystyried cynnig eich cartref i ffoaduriaid o Wcráin trwy Gynllun Cartrefi i Wcráin llywodraeth Cymru – diolch.

Rydym am gefnogi trigolion lleol sydd am wirfoddoli i fod yn noddwyr – o gynnal nosweithiau gwybodaeth i’r rheiny sydd â diddordeb mewn bod yn noddwyr, i’ch cefnogi chi pan fydd eich gwesteion yn cyrraedd.

We have more than 60 sponsors in Torfaen, including Helen Jenkins, from Cwmbran.

Dyma ddangos peth o’r cymorth y gallwch ddisgwyl derbyn:

Canllawiau’r Llywodraeth

Mae eich awdurdod lleol yn gyfrifol am:

  • Gofrestru plant gydag ysgolion lleol
  • Rhoi cyngor ar wasanaethau cefnogaeth deuluol, fel cymorth gyda chostau gofal plant, dosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)
  • Gweithio gyda byrddau iechyd lleol i gyfeirio at gyngor ac atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd cyhoeddus arbenigol fel sy’n briodol, er enghraifft brechiadau neu sgrinio’r dicáu
  • Dylai cyngor ar wasanaethau cymorth pellach fel sefydlogi cychwynnol, cynghori a chefnogaeth iechyd meddwl, gofal cymdeithasol i oedolion a gwasanaethau plant gael eu darparu pan fo angen
  • Trefnu apwyntiadau lleol gyda’r Ganolfan Waith a Mwy ar gyfer asesiadau budd-daliadau, gan gynnwys ar gyfer taliadau argyfwng tra bod unrhyw fudd-daliadau’n cael eu trefnu

Gwiriadau GDG

Bydd angen gwiriad GDG newydd ar bob noddwr ac aelodau’r aelwyd sy’n 16 oed a hŷn.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu pa wiriadau GDG (uwch neu sylfaenol) bydd eu hangen yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth.

Ni codir tâl ar noddwyr am y gwiriadau. Bydd yr awdurdod lleol ar gael i’ch cefnogi gyda’ch gwiriadau GDG ac wrth law i drafod unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych.

Ymweliadau â’r Cartref

Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn bod ymweliadau â’r cartref yn digwydd er mwyn gwirio a yw’r cartref yn addas. Bydd adrannau Iechyd Amgylcheddol a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnal ymweliad cychwynnol â’r cartref ar adeg sy’n gyfleus i chi. Os nad ydych chi’n berchennog h.y. os ydych chi’n rhentu’ch cartref, rhowch wybod i un o’r swyddogion pan fyddan nhw’n cysylltu â chi.

Taliad

Bydd y cyngor yn rhoi £200 y person i newydd-dyfodiad i gychwyn, yn ogystal â £350 y mis fel “diolch” i chi am roi croeso. Mae’r taliad misol yn gyfyngedig i £350 ar gyfer pob cyfeiriad preswyl, waeth faint o bobl sydd yno.

Hefyd, fel diolch, bydd Cyngor Torfaen yn rhoi cerdyn taleb £500 i chi brynu hanfodion ar gyfer y rheiny sy’n cyrraedd, yn ogystal â gliniadur i ddarparu cysylltedd digidol i’ch gwesteion.

Cefnogaeth ychwanegol

Os byddwch, am unrhyw reswm am ddod â’r trefniadau noddi i ben yn gynnar, dylai noddwyr roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

Os yw eich sefyllfa dai yn un frys, byddwch yn cael eich cyfeirio at ein Gwasanaeth Atebion Tai.

Bydd llinell gymorth genedlaethol ar gael i noddwyr a ffoaduriaid o 9am tan 5pm, 7 diwrnod yr wythnos. Y rhif rhadffon yw 0808 175 1508.

Os yw eich sefyllfa dai yn un brys, byddwch yn cael eich cyfeirio at ein Gwasanaeth Atebion Tai.

Gwybodaeth Iechyd

Diwygiwyd Diwethaf: 03/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol

Ffôn: 01495 766097

E-bost: support.ukraine@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig