Atal Gwenwyn Bwyd

Mae yna bedair rheol ar gyfer osgoi gwenwyn bwyd yn y gegin yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

  • Traws Halogi
  • Glanhau
  • Oeri
  • Coginio

Traws Halogi

Mae traws-halogiad yn un o achosion pennaf gwenwyn bwyd a dyma sut y mae germau yn cael eu lledaenu o un lle i'r llall, fel arfer o fwyd amrwd i fwyd wedi ei goginio, naill ai'n uniongyrchol ar yr un arwynebedd neu'n anuniongyrchol wrth ddiferu o un silff i'r silff islaw. Gall germau hefyd ledaenu o ddwylo, offer coginio neu ddillad ac ati.

I atal gwenwyn bwyd o ganlyniad traws halogiad, dilynwch y camau syml canlynol:

  • Golchwch eich dwylo yn drylwyr ar ôl cyffwrdd â bwyd amrwd
  • Cadwch fwydydd amrwd a bwyd parod i'w fwyta ar wahân
  • Storiwch gig amrwd mewn cynhwysyddion y gellir eu selio ar waelod yr oergell, fel nad yw'n medru diferu ar fwydydd eraill
  • Defnyddiwch wahanol fyrddau torri/arwynebau bwyd ar gyfer bwyd amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta
  • Cofiwch lanhau cyllyll ac offer eraill yn drylwyr ar ôl eu defnyddio ar gyfer bwyd amrwd

Glanhau

Gall hylendid personol da a chymryd camau i gadw eich cegin yn lân, helpu i atal y germau rhag lledaenu. Golchi eich dwylo yw un o'r ffyrdd gorau i atal germau rhag lledaenu, yn enwedig:

  • ar ôl bod yn y tŷ bach
  • ar ôl trafod bwyd amrwd
  • cyn cyffwrdd â bwyd sydd yn barod i'w fwyta
  • peidiwch â thrafod bwyd os ydych yn sâl ac yn dioddef o broblemau stumog, fel dolur rhydd neu chwydu
  • peidiwch â chyffwrdd â bwyd os oes gennych friwiau, heblaw bod gennych blastr neu orchudd gwrth-ddŵr arno

Coginio bwyd yn drwyadl

Mae coginio bwyd yn drwyadl yn lladd germau gwenwyn bwyd fel Listeria, Salmonela, E-coli 0157 a Campylobacter. Gwnewch yn siŵr bod bwyd yn coginio drwodd ac yn ferw, a pheidiwch â'i ailgynhesu mwy nag unwaith!

Oeri

Mae cadw bwyd ar y tymheredd cywir yn bwysig iawn i atal germau rhag cynyddu a chreu tocsinau sy'n eich gwneud yn sâl. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer storio yn yr oergell, a gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn rhoi bwydydd yn yr oergell cyn gynted ag y bo bodd. Mae'n debygol y bydd y germau wedi dyblu bob ugain munud y bydd y bwyd yn cael ei adael allan o'r oergell.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/01/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gorfodi Iechyd, Diogelwch a Bwyd

Ffôn: 01633 647623

Nôl i’r Brig