Diogelwch Bwyd - Digwyddiadau Elusennol

Arlwyo ar gyfer Digwyddiadau Elusennol

Mae digwyddiadau elusennol yn ffordd dda o godi arian neu drefnu gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer y rheiny sydd mewn angen neu grwpiau bregus, ond mae gofidion ynghylch gwenwyn bwyd yn golygu bod rhai darparwyr gwirfoddol, elusennol a darparwyr eraill yn cwtogi ar y gweithgareddau hyn. Fodd bynnag, wrth gymryd rhai camau syml, dylai fod yn bosibl cynnal digwyddiadau arlwyo elusennol sydd yn ddiogel a phleserus. Darllenwch y canllaw Arlwyo ar gyfer Digwyddiadau Elusennol am gyngor.

Cacennau ar gyfer Digwyddiadau Elusennol

Mae stondinau cacennau a chacennau ar gyfer partis yn boblogaidd iawn a dylai cacennau a mins peis sy'n dod o'r siop fod yn hollol ddiogel os ydych yn eu prynu gan gyflenwr ag enw da. Dylai cacennau cartref fod yn ddiogel hefyd, cyhyd ag y bod y bobl sy'n eu gwneud yn dilyn camau hylendid da a bod y cacennau yn cael eu storio a'u cludo'n ddiogel. Mae canllaw Cacennau ar gyfer Digwyddiadau Elusennol ar gael i'w lawr lwytho. 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig