Gwenwyn Bwyd ar Wyliau

Mae nifer o bobl yn dioddef o symptomau gwenwyn bwyd ar wyliau, er nid yw pob un ohonynt yn wenwyn bwyd mewn gwirionedd! Mae rhai problemau'n codi am ein bod yn bwyta bwyd nad ydym yn gyfarwydd ag ef, a gall hynny effeithio'r stumog.

Mae dŵr o ansawdd gwael yn broblem gyffredin, a'r cyngor yn gyffredinol yw cymryd camau priodol os ydych yn cael gwybod nad yw'r dŵr yn ddiogel i'w yfed, gall hyn gynnwys

  • Yfed dŵr potel( gwnewch yn siŵr bod y botel wedi selio, i sicrhau nad yw wedi cael ei lenwi o'r tap)
  • Osgoi ciwbiau iâ mewn diodydd

Sicrhau bod salad, ffrwythau ac ati wedi cael eu golchi mewn dŵr potel neu ddŵr wedi ei drin, a philio ffrwythau ac ati cyn eu bwyta.

Firysau ar raddfa faw

Gall firysau fod yn broblem fawr am eu bod yn medru lledaenu'n gyflym o berson i berson. Gall llongau mordaith a gwestai fod yn agored iawn i achosion mawr, felly dylech bob amser

  • Gynnal safonau hylendid da, gan sicrhau eich bod yn golchi'ch dwylo ar ôl bod yn y tŷ bach a chyn bwyta
  • Os ydych yn sâl, arhoswch yn eich ystafell os medrwch am 48 awr ar ôl i'r symptomau ddiflannu er mwyn sicrhau na fyddwch yn lledaenu'r salwch 
  • Yfwch digon o ddŵr, er efallai na fyddwch yn teimlo fel gwneud. Gall dolur rhydd a chwydu achosi i'ch corff golli dŵr Gall diffyg hylif fod yn ddifrifol dros gyfnod o ddiwrnodiau
  • Dilynwch y cyngor ar olchi dwylo ac ati a roddir i chi gan y cwmni gwyliau er mwyn ceisio osgoi achos ar raddfa fawr

Mae Holiday Travel Watch yn fudiad gwirfoddol sy'n rhoi cymorth a chyngor i deithwyr er mwyn eu helpu i osgoi problemau. Mae hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i'r rheiny sy'n tybio eu bod yn sâl oherwydd eu bod wedi bod yn agored i heintiau dramor.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi dal eich salwch tra eich bod dramor, efallai y byddwch am gysylltu â Holiday Travel Watch ar 0121 747 8100 (Llinell Gymorth).

Diwygiwyd Diwethaf: 27/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig