Pwy sydd mewn perygl o gael gwenwyn bwyd?

Mae rhai pobl yn fwy tebygol o gael gwenwyn bwyd, tra nad yw pobl eraill i weld yn ei gael o gwbl. Mae hyn oherwydd bod gan rai pobl fwy o ymwrthedd naturiol, ond mae adegau pan rydym yn llai ymwrthol oherwydd ein bod dan straen, yn sâl neu fod ein hymwrthedd yn is am ryw reswm arall.

Caiff rhai grwpiau penodol eu hystyried yn llai ymwrthol i wenwyn bwyd, ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • yr henoed, yn enwedig os ydynt yn eiddil hefyd
  • pobl wael, yn enwedig rhai sydd ag imiwnedd gwan neu sydd â llai o allu i frwydro afiechyd oherwydd cemotherapi neu gyflyrau neu driniaeth feddygol arall
  • babanod a phlant ifanc
  • merched beichiog (mae listeria yn bryder penodol)

Os oes gan unrhyw un yn un o'r grwpiau uchod symptomau gwenwyn bwyd, mae'n arbennig o bwysig eu bod yn cael triniaeth.

Dylid cymryd gofal ychwanegol wrth baratoi bwyd ar gyfer y grwpiau bregus hyn, ac edrych ar eu hôl, er mwyn lleihau'r perygl ohonynt yn dod i gysylltiad â bacteria gwenwyn bwyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig