Salmonela

Beth yw Salmonela?

Salmonela yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y DU. Mae nifer o wahanol fathau ohono, ond Salmonela enteritis (ffag math IV) yw'r un mwyaf cyffredin.

Pa fwyd y mae'n effeithio arno?

Gall Salmonela effeithio ar bron pob math o fwyd, ond yn enwedig dofednod, cig amrwd, llaeth heb ei drin ac wyau hwyaid ac ieir. Gall pryfed, adar, fermin ac anifeiliaid anwes ledaenu'r bacteria i fwyd os ydynt yn cael mynd i'r gegin. Gall cig amrwd ledaenu'r bacteria ar arwynebau gwaith. Gall bwydydd eraill gael eu halogi os na chaiff arwynebau gwaith eu glanhau'n drylwyr.

Beth yw'r symptomau?

Fel arfer, mae symptomau'n datblygu rhyw 12 i 36 awr ar ôl yr heintiad, a gallant achosi twymyn, cur pen, poenau yn y stumog a dolur rhydd. Gall y rhain bara tuag wythnos ond, hyd yn oed ar ôl gwella, gall y claf barhau i basio'r bacteria yn ei (h)ymgarthion am nifer o wythnosau - fel "cludwr iach".

Camau i'w cymryd!

Yn ystod cyfnod dolur rhydd yr haint, dylai hylendid personol fod yn ofalus a dylid osgoi trin bwyd. Yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl pasio'r haint i rywun arall trwy'r llwybr ymgarthol-geneuol.

SYLWER: Mae gwres yn lladd Salmonela yn hawdd, felly bwyta bwydydd amrwd, bwydydd heb eu coginio'n ddigonol neu fwydydd wedi'u coginio ond sydd wedi'u halogi naill ai o ganlyniad i'w trin yn wael neu ddefnyddio offer budr sy'n beryglus.

Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os bydd angen rhagor o gyngor arnoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig