Cynllun Sgoria Hylendid Bwyd

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis  ble i fwyta neu siopa am fwyd. Mae’r cynllun yn rhoi i chi’r wybodaeth am safonau hylendid mewn bwytai, tafarnau, caffis, siopa cludfwyd, gwestai a mannau bwyta eraill, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Sut mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn Gweithio?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, 'y Cyngor' yn gweithredu'r cynllun yn unol â gofynion Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Datblygwyd y cynllun gorfodol gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â'r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol. Mae'n seiliedig ar gynllun anstatudol y mae'r Cyngor wedi ei weithredu ers mis Hydref 2010 ac nid yw sail y sgôr wedi newid. Bydd yn rhoi gwybodaeth am y safonau hylendid mewn safleoedd bwd ar yr adeg y maent yn cael eu harolygu gan un o'n swyddogion diogelwch bwyd i wirio eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol ar hylendid bwyd. Mae'r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu'r hyn y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar y pryd.

Nid yw'n hawdd barnu safonau hylendid yn ôl golwg yn unig, felly mae'r sgôr yn rhoi syniad i chi o'r hyn sy'n mynd ymlaen yn y gegin, neu y tu ôl i ddrysau caeedig. Gallwch wirio'r graddau a defnyddio'r wybodaeth i ddewis lle gyda safonau uwch. Mae hefyd yn dda i rannu'r wybodaeth hon gyda ffrindiau a theulu.

Pam mae'r cynllunyn bwysig?

Darparu gwybodaeth am safonau hylendid mewn siopau bwyd yn rhoi sail ehangach i pobl  i wneud dewis. 
Mae hefyd yn cydnabod busnesau hynny â'r safonau uchaf ac yn annog eraill i wella.

Y nod cyffredinol yw lleihau nifer yr achosion o wenwyn bwyd sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar tua un miliwn o bobl yn y DU bob blwyddyn.

Mae'r cynllun yng Nghymru yn cael ei redeg yn unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ond mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd hefyd yn cael ei gynnal yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda'r graddfeydd yn cael eu seilio ar yr un wybodaeth. Felly mae'r cynllun yn helpu pobl leol ac ymwelwyr wrth iddynt benderfynu ble i fwyta a phrynu bwyd, ac mae'n golygu y gall pobl gymharu tebyg i'w debyg â busnesau mewn ardaloedd eraill.

Pa fusnesau sy’n derbyn sgôr?

Mae bwytai, siopau cludfwyd, caffis, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a mannau eraill sy'n gwerthu bwyd, yn ogystal â busnesau eraill lle gall defnyddwyr fwyta neu brynu bwyd, yn cael sgôr hylendid fel rhan o'r cynllun.

Sut y cyfrifir y sgôr?

Mae pob busnes yn cael sgôr yn dilyn arolygiad gan swyddog diogelwch bwyd. Mae hyn yn seiliedig ar ba mor dda y mae'r busnes yn bodloni gofynion y gyfraith hylendid bwyd ar y pryd. Mae'r asesiad yn seiliedig ar y tair elfen ganlynol -

  • Gweithdrefnau diogelwch a hylendid bwyd,
  • Strwythur y sefydliad (yn cynnwys glendid, cynllun, cyflwr y strwythur, goleuadau, awyru, cyfleusterau ac ati) a
  • Hyder yn y rheolwyr / gweithdrefnau rheoli (dyma’r term y byddwn yn rhoi pan fyddwn yn asesu’r ddogfennaeth a’r dulliau cadw cofnodion sydd gan y busnes yn ei le i gynllunio a rheoli diogelwch bwyd mewn ffordd ragweithiol).

Mae pob un o'r tair elfen yn hanfodol i sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn bodloni gofynion ac mae'r bwyd a weinir neu ei werthu i chi yn ddiogel i'w fwyta.

Mae'r sgôr yn cyfeirio at y safonau hylendid y busnes bwyd - nid yw'n sôn am ansawdd y bwyd neu am y safonau gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid.

Beth yw’r gwahanol sgôr sy’n ymddangos?

Mae'r sgôr hylendid bwyd yn adlewyrchu'r safonau hylendid a geir ar yr adeg y mae'r busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd. Mae'r swyddogion hyn wedi'u hyfforddi'n arbennig ac yn gymwys i asesu safonau hylendid bwyd.

Mae busnes yn derbyn un o’r sgoriau hyn:

Food Hygiene Ratings

Dylai pob busnes fedru llwyddo i gyrraedd y sgôr uchaf o 5.

Mae'r sgôr a roddwyd yn dangos pa mor dda y mae'r busnes yn ei wneud yn gyffredinol, ond hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr elfen neu elfennau sydd angen ei wella/eu gwella fwyaf, a hefyd lefel y risg y mae'r fath faterion yn peri i iechyd pobl. Mae hyn oherwydd y bydd rhai busnesau yn gwneud yn dda mewn rhai meysydd ac nid cystal mewn meysydd eraill ond mae pob un o'r tair elfen a wirir yn hanfodol i sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn bodloni gofynion a bod y bwyd a weinir neu ei werthu i chi yn ddiogel i'w fwyta.

I gyrraedd y sgôr uchaf o ‘5’, rhaid i fusnesau wneud yn dda ymhob un o’r tair elfen.

Mae'r rhai sydd â sgôr o '0' yn debygol iawn o fod yn perfformio'n wael ym mhob un o'r tair elfen ac maent yn debygol o fod wedi wynebu problemau difrifol yn y gorffennol. Efallai, er enghraifft, bod yna ddiffyg glanhau a diheintio sy'n ddigonol, ac mae'n bosib nad yw'r system reolaeth sydd yn ei lle yn ddigonol i sicrhau bod y bwyd yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.

Lle na fydd busnes yn cyrraedd y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn esbonio i'r person sy'n berchen ar neu'n rheoli busnes pa welliannau sydd eu hangen.

Beth all busnesau ei wneud i wella a bod angen?

Gall y sawl sy’n berchen ar fusnesau a rheolwyr ddysgu mwy am yr hyn sydd angen iddynt ei gyflawni’r sgôr uchaf drwy lawr lwytho copi o’r daflen Mae hylendid bwyd yn haws ei adnabod yng Nghymru.

Beth all busnesau ei wneud os nad ydynt yn fodlon â’r sgôr a ddyfarnwyd iddynt?

Mae Deddf Sgôr Hylendid Bwyd (Cymru) yn cyflwyno cyfres o fesurau diogelu ar gyfer busnesau bwyd. Amlinellir y rhain yn nogfen Egluro Mesurau Diogelu Busnes.

Mae’r prif fesurau diogelu yn cynnwys:

Hawl i ymateb

Mae 'hawl i ymateb' yn rhoi cyfle i berchennog y busnes egluro pa fesurau a gymerwyd ganddynt ers yr arolygiad i fynd i'r afael â'r materion diogelwch bwyd y cafwyd hyd iddynt. Gellir lawr lwytho’r ‘ffurflen hawl i ymateb yma.

Hawl i apelio

Os yw busnes yn teimlo bod y sgôr yn anghyfiawn neu nad oedd yn adlewyrchu'r amodau y cafwyd hyd iddynt ar adeg yr ymweliad gallant 'apelio' yn erbyn y sgôr a ddyfarnwyd. Gelli lawr lwytho’r ‘ffurflen apelio yma.

Gofyn am arolwg i ail-ddyfarnu sgôr

Os yw busnes yn dymuno bod ei sgôr hylendid yn cael ei ailasesu gallant wneud cais am ail arolwg. Gellir lawr lwytho’r ffurflen arolwg i ailddyfarnu sgôr yma.

Y gost o drefnu arolwg i ailddyfarnu sgôr ar hyn o bryd yw £180 y mae'n rhaid ei dalu cyn yr eir ati i ailddyfarnu sgôr. Gellir talu drwy siec i 'Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen' neu drwy gerdyn debyd/ credyd yn bersonol yn un o'n swyddfeydd neu dros y ffôn (os gwelwch yn dda ffôniwch 01633 468009). Peidiwch ag anfon taliad arian parod yn y post - os ydych yn dymuno talu gydag arian parod gwnewch hynny yn bersonol yn un o'n swyddfeydd.

Gellir anfon ceisiadau hawl i ymateb, apelio ac arolygon i ailosod sgôr, wedi eu cwblhau, drwy e-bost i commercial.services@torfaen.gov.uk neu drwy'r post i:

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd 
Tîm Bwyd ac Iechyd a Diogelwch  
Tŷ Blaen Torfaen
Ffordd Panteg 
Y Dafran Newydd
Pont-y-pŵl 
NP4 0LS

Ble fydd y sgôr hylendid bwyd yn cael ei arddangos?

Gallwch chwilio am sgoriau hylendid bwyd ar www.food.gov.uk/ratings.

Gallwch chwilio am sgoriau busnesau lleol a busnesau ledled Cymru, a hefyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cynllun tebyg - y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd - yn gweithredu yn yr Alban a gellir cael hyd i fanylion ar y wefan hon.

Mae busnesau yn cael sticer sy'n dangos eu sgôr a bydd y rhai sy'n derbyn sticer sgôr 'newydd' sy'n cynnwys logo Llywodraeth Cymru o 28 Tachwedd yn gorfod ei arddangos mewn lle amlwg - megis y drws ffrynt neu ffenestr - ac ar bob mynedfa i gwsmeriaid,  a rhoi gwybodaeth ar lafar am eu sgôr os gofynnir iddynt

Ymhle gallaf gael hyd i wybodaeth bellach?

Gallwch ddarllen am y cynllun ar safle'r Asiantaeth Safonau Bwyd.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig