Cryptosporidium

Beth yw Cryptosporidium?

Parasit (organeb fechan) yw Cryptosporidium, sy'n achosi haint a elwir yn cryptosporidiosis sy'n effeithio ar bobl ac anifeiliaid fferm.

Ceir hyd i Cryptosporidium mewn llynnoedd, ffrydiau ac afonydd, dŵr yfed sydd heb ei drin ac weithiau mewn pyllau nofio.

Pwy sydd mewn perygl?

Gall unrhyw un gael cryptosporidiosis, ond mae'n fwy cyffredin ymhlith plant rhwng un a phum mlwydd oed. Mae pobl sy'n gofalu am blant neu'n gweithio gyda phlant yn fwy agored i risg nag eraill. I'r mwyafrif o bobl, mae'r salwch yn amhleserus ond hunangyfyngol. Fodd bynnag, gall fod yn salwch difrifol i'r bobl hynny nad yw eu systemau imiwnedd yn gweithio'n iawn. Rhowch wybod i'r person sydd yn rhoi'r cyngor yma i chi am unrhyw salwch/gyflyrau eraill sydd gennych ac unrhyw feddyginiaethau yr ydych yn eu cymryd ar hyn o bryd.

Sut ydych yn cael cryptosporidiosis?

Gallwch gael cryptosporidiosis yn uniongyrchol gan berson neu anifail arall drwy gyffwrdd ag ysgarthion (er enghraifft wrth newid cewyn) a rhoi eich dwylo yn eich ceg neu'n agos i'r geg heb eu golchi'n drwyadl. Gallwch hefyd gael cryptosporidiosis gan anifeiliaid heintiedig neu drwy yfed neu nofio mewn dŵr wedi'i halogi. Weithiau gallwch gael eich heintio wrth yfed neu fwyta bwyd halogedig, yn enwedig llaeth heb ei basteureiddio, cig neu offal (afu, arennau a chalon) heb ei goginio'n iawn.

Sut allwch chi osgoi cael cryptosporidiosis?

Golchwch eich dwylo'n drwyadl gyda sebon a dŵr cynnes:

  • cyn paratoi a bwyta bwyd
  • ar ôl trafod bwyd amrwd
  • ar ôl mynd i'r tŷ bach neu newid cewyn babi
  • ar ôl gweithio, bwydo, twtio neu chwarae gydag anifeiliaid anwes neu anifeiliaid eraill.
  • peidiwch ag yfed dŵr sydd heb gael ei drin
  • peidiwch â defnyddio iâ neu ddŵr yfed mewn gwledydd lle y gallai'r cyflenwad dŵr fod yn anniogel.
  • golchwch a/neu biliwch ffrwythau a llysiau bob amser cyn eu bwyta

Sut allwch chi osgoi cael cryptosporidiosis?

  • Peidiwch â mynd i nofio os oes gennych ddolur rhydd.
  • Os ydych wedi cael cryptosporidiosis peidiwch â mynd i nofio tan eich bod yn hollol glir o'r dolur rhydd am o leiaf pythefnos.
  • Cofiwch osgoi llyncu dŵr mewn llynnoedd a phyllau nofio.
  • Dylech roi sylw arbennig i hylendid yn ystod ymweliadau fferm, gan olchi'ch dwylo ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, a bwyta mewn mannau pwrpasol yn unig.
  • Mae cryptosporidiosis yn heintus iawn felly mae angen i chi fod yn hynod ofalus o lendid o gwmpas eich cartref.
  • Golchwch seddau toiledau, powlenni a dolenni toiledau, tapiau a basnau ymolchi ar ôl eu defnyddio.
  • Gwnewch yn siŵr bod pob aelod o'ch cartref yn golchi'u dwylo'n drwyadl gyda sebon a dŵr poeth ar ôl mynd i'r tŷ bach ac ar ôl trafod dillad a/neu ddillad gwely sydd wedi baeddu.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan bawb eu tywel eu hunain ac nac ydynt yn defnyddio tywelion unrhyw un arall. Golchwch ddillad brwnt a dillad gwely ar dymheredd poeth mewn peiriant golchi.

Beth yw symptomau cryptosporidiosis a pha mor hir maen nhw'n parhau?

Y symptomau mwyaf cyffredin yw dolur rhydd dyfrllyd, chwydu, poenau yn y stumog, a thwymyn a all barhau am ychydig ddyddiau'n unig, neu hyd at dair neu bedair wythnos. Fe all effeithio ar bobl sydd â system imiwnedd wan am gyfnod hirach o lawer. Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn gwella a bod yr haint wedi darfod ond yna fe welwch eich bod yn gwaethygu cyn i'r salwch ddiflannu. Mae diffyg hylif a cholli pwysau yn llai cyffredin, ond gall ddigwydd os nad yw eich corff yn medru derbyn digon o faetholion a dŵr o'ch bwyd, ee os yw'r chwydu neu'r dolur rhydd yn ddifrifol neu'n parhau am gyfnod hir. Am fod y symptomau yn debyg i nifer o heintiau eraill, yr unig ffordd i gael diagnosis manwl gywir yw cynnal prawf ar sampl o'ch ysgarthion mewn labordy.

Sut ydych yn trin cryptosporidiosis?

Nid oes triniaeth benodol ar gyfer cryptosporidiosis. Bydd mwyafrif y bobl sydd â system imiwnedd iach yn gwella o fewn mis.

  • Mae'n bwysig yfed digon o hylifau am fod dolur rhydd a chwydu yn medru arwain at ddiffyg hylif ac fe allech golli siwgrau a mwynau pwysig o'ch corff. Efallai y bydd eich meddyg yn argymell cyffur ail-hydradu sydd ar gael gan eich fferyllfa leol. Os ydych yn teimlo'n sâl, ceisiwch gymryd llymeidiau o hylif yn aml.
  • Cofiwch osgoi alcohol
  • Gall cyffur lleddfu poen helpu i leddfu crampiau yn y stumog. Siaradwch â'ch meddyg neu fferyllydd a fydd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch y cyffur lleddfu poen sydd fwyaf addas i chi.

A oes angen i mi gadw i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol?

Oes. Tra eich bod yn sâl a thra bod gennych symptomau rydych yn heintus. Ni ddylech ddychwelyd i'r gwaith na'r ysgol tan fod y dolur rhydd a/neu'r chwydu wedi darfod am 48 awr.

Dylech ddweud wrth eich cyflogwr eich bod wedi cael cryptosporidiosis os ydych yn gweithio gyda grwpiau bregus fel yr henoed, yr ifanc, y rheiny ag afiechyd, neu os ydych yn

Am gyngor pellach neu os oes gennych bryderon ynghylch eich iechyd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647, neu siaradwch â'ch meddyg teulu.

Am gyngor pellach ar wenwyn bwyd, cysylltwch â'ch Adran Iechyd yr Amgylchedd leol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 01633 762200. 

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig