Norofeirws

Mae Norofeirws (clefyd chwydu'r gaeaf neu gastro-enteritis fel y mae'n cael ei alw) fel arfer yn anhwylder hunangyfyngol sy'n achosi salwch ysgafn i gymedrol. Byr iawn yw'r salwch fel arfer, yn parhau rhwng 12 a 60 awr. Fodd bynnag, fel gwenwyn bwyd, gall fod yn ddifrifol i' rheiny dan 5, dros 65 oed a'r rheiny sydd eisoes yn sâl oherwydd gwahanol gyflyrau iechyd.

Mae fel arfer yn cymryd 24 i 48 awr ar ôl dod i gyswllt â'r feirws cyn dechrau teimlo'n sâl ac mae'n achosi cyfog sydyn, chwydu hyrddiol, dolur rhydd dyfrllyd ac weithiau twymyn, cur pen a mân boenau drwy'r corff.

Mae'r achosion o norofeirws yn cael eu riportio'n aml i'r Tîm Iechyd, Diogelwch a Bwyd, yn enwedig yn y gaeaf, ac mae'n gysylltiedig â lleoedd lle mae grwpiau mawr yn cwrdd. Er enghraifft, gweithleoedd, ysgolion, ysbytai, gwestai, cartrefi preswyl a chartrefi nyrsio.

Nid oes triniaeth feddygol benodol, fodd bynnag, mae sefydliadau meddygol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell eich bod yn yfed digon i osgoi diffyg hylif. Os oes gennych unrhyw bryderon meddygol, awgrymir y dylech gysylltu â'ch Meddyg neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Er mwyn atal eich teulu rhag dal neu ledaenu'r feirws heintus hwn, gweler y daflen osgoi lledaenu clefydau heintus sydd yn cynnig cyngor defnyddiol.

Os ydych angen gwybodaeth bellach ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig