Gwenwyn Bwyd

Beth yw Gwenwyn Bwyd?

Mae nifer o bobl yn meddwl mai bacteria yn unig y'n achosi gwenwyn bwyd ac yn aml maent yn rhoi'r bai ar y pryd bwyd diwethaf . Nid dyna yw'r achos fel arfer am mai firysau sy'n achosi llawer o achosion o ddolur rhydd a chwydu ac mae mwyafrif y bygiau sy'n achosi gwenwyn bwyd yn cymryd diwrnod neu ddau i ddechrau creu effaith.

Yn Nhorfaen, bacteria Campylobacter yw gwraidd mwyafrif yr achosion gwenwyn bwyd sy'n dod i'r amlwg gyda nifer fach iawn yn dioddef o Salmonela, E.coli ac ati. Diolch i'r drefn mai yn 2009-2012, achlysurol oedd pob achos (unigryw) neu achosion bach o fewn y teulu. Firysau oedd yn gyfrifol am bob achos arall.

Mae mathau eraill o salwch gwenwyn bwyd fel Cryptosporidium, Giardia neu Legionella hefyd yn achosi dolur rhydd a chwydu, a cheir hyd iddynt yn yr amgylchedd ee dŵr, tail, anifeiliaid anwes ac ati.

Petai nifer o bobl yn bwyta yn yr un lleoliad a chanddynt yr un math o symptomau, gallai hyn fod yn wenwyn bwyd, achos firaol neu amgylcheddol. Mae yna ddwy ffordd i ni fynd ati i ddarganfod mwy am achosion posib, h.y.

  • Gall unrhyw un sy'n dioddef o wenwyn bwyd neu firws gysylltu â ni, a byddwn yn ymchwilio fel y bo'n briodol oherwydd y gallai'r broblem fod yn deillio o le bwyd.
  • Gallai ein hymchwiliad arferol i achosion o wenwyn bwyd ddangos patrwm sy'n awgrymu bod lle bwyd penodol yn rhan o'r achos

Beth i'w wneud os ydych yn credu mai lle bwyd a achosodd eich salwch

Os ydych yn credu eich bod yn dioddef o wenwyn bwyd, dylech gysylltu â'ch meddyg, a ddylai drefnu i chi rhoi sampl a fydd yn cael ei anfon i'r labordy. Bydd y labordy'n hysbysu'ch meddyg os oes gennych wenwyn bwyd.

Efallai hefyd y byddwch am gysylltu â ni, yn enwedig os ydych yn ymwybodol o bobl eraill fu'n bwyta yn yr un lle neu a fwytaodd yr un bwyd, sydd hefyd yn sâl, a byddwn yn ymchwilio fel y bo'n briodol. Rydym bob amser yn awgrymu'n gryf bod unrhyw un sy'n credu eu bod nhw, neu aelod o'u teulu yn dioddef o wenwyn bwyd, yn mynd i weld eu meddyg er mwyn iddo/iddi drefnu iddynt roi sampl. Heb hyn, bydd eich achos yn cael ei drin fel amheuaeth o wenwyn bwyd

Achosion ac Ymchwilio i Wenwyn Bwyd

Os ydych wedi dioddef o wenwyn bwyd neu os ydym yn credu efallai bod yna achosion eang o wenwyn bwyd, bydd ein hymchwiliad i'r mater yn cynnwys:

  • Cyfweld pobl sydd yn sâl
  • Cyfweld eraill a fu'n bwyta yn yr un lleoliad, ond sydd heb symptomau
  • Cymryd samplau os yn briodol
  • Archwilio'r lleoliad dan sylw

Os oes digon o dystiolaeth i awgrymu efallai bod lle bwyd yn yr ardal yn gyfrifol am yr achos, efallai y penderfynwn

  • cynnal ymchwiliad hylendid bwyd, a chymryd camau ffurfiol neu anffurfiol ar sail yr hyn y byddwn yn ei ddarganfod
  • i gychwyn eich Cynllun Rheoli Achosion, yn enwedig os yw'r achosion yn effeithio ar lawer o bobl a/neu mwy nag un lle bwyd.

Bacteria ac Afiechydon Gwenwyn Bwyd Cyffredin

Mae bacteria ac afiechydon gwenwyn bwyd cyffredin yn cynnwys:-

  • Campylobacter
  • Salmonela
  • Listeria
  • Clostridium perfringens
  • Bacillus cereus
  • E.coli O157
  • Shigella
  • Giardia
  • Cryptosporidium
  • Norofeirws 
Diwygiwyd Diwethaf: 04/04/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Bwyd, Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 648009

Nôl i’r Brig