Labelu Bwyd

Mae labelu bwyd a gwybodaeth am fwyd yn hanfodol, am ei fod yn caniatáu cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch y bwyd y maen nhw'n ei fwyta.

Mae cyngor cyffredinol ar labelu bwyd ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â label bwyd yn gymhleth ac mae cyngor ar gael gan y Tîm Safonau Masnach ar 01633 648384.

Mae ystod o daflenni ar labelu bwyd a'r gyfraith ar gael gan y Sefydliad Safonau Masnach .

Alergeddau ac Anoddefiadau

Mae alergeddau ac anoddefiadau bwyd yn faterion sy'n dod fwyfwy i'r amlwg ac mae angen i arlwywyr fod yn hollol ymwybodol ohonynt.

Mae alergedd ac anoddefiadau bwyd yn ddau fath o sensitifrwydd bwyd. Pan fod gan rywun alergedd bwyd, mae eu system imiwn yn adweithio yn erbyn bwyd sydd ddim yn ddiogel. Os oes gan rywun alergedd bwyd difrifol, gall hyn achosi adwaith sy'n beryg i'w bywyd.

Y bwydydd sydd fwyaf tebygol o achosi anoddefiadau yw protein llaeth buwch, gwynnwy, gwenith, ffa soia, penfras a chnau. Ymhlith oedolion, mae cnau (yn cynnwys cnau brasil, almonau, cnau mwnci a chnau Ffrengig), ffrwythau (fel eirin gwlanog, afalau, mefus, a ffrwythau sitrws), a llysiau (fel seleri, tomatos, winwns, garlleg a phersli) yn alergenau cyffredin. Gall bwydydd môr fel pysgod, misglod, crancod, corgimychiaid, berdys a môr-lewys hefyd achosi adweithiau alergaidd.

Sioc anaffylactig sy'n achosi'r pryder mwyaf, am ei fod yn gallu bod yn beryg bywyd. Mae anaffylacsis yn adwaith alergaidd systemig, sy'n sydyn, difrifol ac yn gallu peryglu bywyd. Daw'r symptomau o fewn munudau neu hyd at ddwy awr ar ôl y cyswllt gyda'r sylwedd sy'n achosi alergedd ond, mewn rhai achosion prin, gall y symptomau ymddangos hyd at bedair awr yn ddiweddarach. Mae cnau mwnci a mathau eraill o gnau yn achos cyffredin o sioc anaffylactig, a gall hyn ddigwydd hyd yn oed pan fydd ychydig iawn o gnau neu gnau olew yn bresennol. 

Dylai arlwywyr fod yn ymwybodol o'r angen i labelu bwyd yn dda er mwyn i unrhyw un sy'n dioddef o alergeddau gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt. Mae hefyd yn hanfodol osgoi traws-halogiad, am fod hyd yn oed mymryn o fwyd mewn cynnyrch a ddylai fod yn ddiogel i'w fwyta, yn ddigon i achosi salwch.

Dyma ffynonellau gwybodaeth da: 

Maethiad

Er bod marwolaethau o ganlyniad i wenwyn bwyd yn aml yn cyrraedd y tudalennau blaen, mae lefel yr afiechyd a'r marwolaethau cynamserol sy'n deillio o ddeiet gwael yn dod yn fwyfwy hysbys.

Mae clefydau sy'n cael eu hachosi neu eu heffeithio gan ddeiet yn cynnwys rhai o'r prif laddwyr presennol – er enghraifft, clefyd y galon a llawer o fathau o ganser. Fodd bynnag, gall deiet a maethiad gwael effeithio ar ansawdd bywyd hefyd. Gall gordewdra arwain at broblemau symudedd, a gall diffyg calsiwm yn y deiet arwain at glefyd esgyrn brau mewn merched hŷn.

Erbyn hyn, mae pwysigrwyd bwyd iach i blant ifanc yn ffocws ar gyfer llawer o'r polisïau a'r strategaethau maeth sy'n cael eu rhoi ar waith, gan fod hyn nid yn unig yn helpu i amddiffyn iechyd pobl ifanc, ond hefyd yn helpu i osod patrwm o fwyta'n iach trwy gydol eu hoes. Fodd bynnag, mae angen i bob grŵp yn y gymdeithas – dynion neu ferched, ifanc neu hen – feddwl am y math o ddeiet sy'n bodloni eu hanghenion maethol.

Nid yw bwyta'n iach yn ymwneud â bwyta "bwyd cwningen" yn unig – er ei bod yn wybyddus bod manteison iechyd i fwyta 5 darn o ffrwythau neu lysiau y dydd. Yn aml, gall newid cynhwysion i opsiynau mwy iachus a/neu newid y ffordd rydym yn coginio pethau, helpu i wneud ein hoff brydau bwyd yn iachach, heb i ni orfod newid y ffordd rydym yn bwyta na pheidio â bwyta ein hoff fwydydd. 

Mae gwybodaeth am fwyta'n iach ar gael o ystod o ffynonellau, ond mae angen gofalu bod sail wyddonol i'r wybodaeth honno. Yn anffodus, mae bwyd a dilyn deiet yn gymaint o fusnes mawr fel bod gwybodaeth unochrog a deietau ffug i'w gweld mewn siopau llyfrau ac ar y rhyngrwyd.

Mae ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am faeth yn cynnwys :

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig