Cysylltiadau Cymunedol
Mae prosiect Cysylltiadau Cymunedol yn anelu at annog pobl i ddefnyddio dulliau cludiant mwy cynaliadwy i deithio o gwmpas Torfaen, p’un a i fynd i'r gwaith, i'r ysgol neu ar gyfer ffitrwydd neu bleser. Mae cysylltiadau newydd i gerddwyr a beicwyr wedi cael eu creu ac arwyddbyst wedi eu gosod ar lwybrau presennol i helpu pobl i gerdded a beicio yn haws rhwng cymunedau lleol. Yn wreiddiol yn canolbwyntio ar Bont-y-pŵl a'r ardal gyfagos, mae'r cynllun wedi'i ymestyn i gymunedau Blaenafon a Chwmbrân ar hyd Llwybr Afon Lwyd.
Mae cysylltiadau newydd wedi'u creu ar hyd:
- Llwybr Gwyrdd Afon Lwyd: Llyn Cychod Cwmbrân i Lôn y Capel Pontrhydyrun. O'r dudalen hon gallwch gysylltu drwy Lôn y Capel i'r llwybr NCN492 yn Lôn Bevan.
- Glan yr Afon: Canol tref Pont-y-pŵl i Barc Pontnewynydd
- Llwybr Gwyrdd Abersychan: Pontnewynydd i Abersychan
Cysylltiadau gwell wedi cael eu darparu trwy :
- Churchwood: cysylltu Trefddyn i Ganol Tref Pont-y-pŵl
Sylwch nad yw pob llwybr wedi cael e ddynodi ar gyfer beicio. Dewch oddi ar y beic yn y lleoliadau hyn.
Paneli Cyfeiriadedd
Ar hyd y llwybrau, byddwch yn dod o hyd i gyfres o baneli cyfeiriadedd. Mae'r rhain yn dangos eich lleoliad, y mwynderau sydd ar gael yn lleol fel toiledau a chaffis ac unrhyw fannau o ddiddordeb gerllaw. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau cymunedol megis sefydliadau addysg a hyfforddiant yn ogystal ag amgueddfeydd a pharciau. Gallwch gael golwg manwl ar banel cyfeiriadedd yma. Gallwch hofran dros y bocsys melyn am ragor o wybodaeth.
Wrth i chi deithio ar hyd y llwybrau hyn, byddwch yn sylwi ar y brandio gwahanol i adnabod y gwahanol aneddiadau rydych yn pasio drwyddynt; sef Tref Treftadaeth Blaenafon, Tref Marchnad Pont-y-pŵl aThref Newydd Cwmbrân.
Pyst Marcio Ffordd
O fewn Pont-y-pŵl, bydd pyst marcio ffordd pren yn eich tywys ar hyd y llwybr. Mae'r breichiau yn dangos y prif gyrchfan hy Blaenafon, Pont-y-pŵl neu Gwmbrân, fel eich bod yn gwybod pa ffordd yr ydych yn teithio. Efallai nad hon fydd y cyfeiriad rydych fel arfer ei ddefnyddio oherwydd natur oddi ar y ffordd y llwybr. Ceir cyrchfannau canolradd, megis Abersychan a Pontnewynydd, hefyd eu dangos gan gynnwys pellteroedd bras mewn cilometrau. Bydd Pyst Arwyddion alwminiwm sy'n dangos y logo Cysylltiadau Cymunedol yn atgyfnerthu'r llwybr ymhellach.
Gwybodaeth Bellach
Canolfannau Croeso
Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon, Heol yr Eglwys, Blaenafon, NP4 9AE
Ffôn: 01495 742333
Ebost: blaenavon.tic@torfaen.gov.uk
Atyniadau a Gweithgareddau
I gael rhagor o wybodaeth am atyniadau, gweithgareddau, llefydd i fwyta a darparwyr llety ewch i: www.visitblaenavon.co.uk neu www.visitwales.com
Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023
Nôl i’r Brig