Cŵn coll neu grwydr

Ci coll

Os ydych chi wedi colli ci, dylech gysylltu â’n Warden Cŵn cyn gynted â phosibl.

Rydym yn cadw cofnod o gŵn a gollwyd ac y cafwyd hyd iddynt yn yr ardal o Dorfaen ble dywedwyd wrthym amdanynt, a bydd ein staff yn falch o edrych ar y cofnod yma i chi os yw eich ci ar goll.

Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i ddweud am eich ci coll ac i roi eich manylion:

  • Dydd Llun – Ddydd Iau 09:00 - 17:00 – Ffôn: 01633 648009
  • Dydd Gwener – 09:00 – 16:30 – Ffôn: 01633 648009
  • Yn yr wythnos ar ôl 17:00 Llun-Iau; ar ôl 16:30 ar ddydd Gwener; trwy’r dydd ar benwythnos a Gwyliau’r Banc - Ffôn: 01495 762200

Hefyd, gallwch edrych ar www.hoperescue.org.uk a thudalen Facebook Hope Rescue ble mae lluniau o gŵn coll yn cael eu dangos.

Efallai byddwch am rannu manylion ci coll neu gi y cafwyd hyd iddo trwy’r cyfryngau cymdeithasol, sy’n derbyn llawer o adroddiadau o gŵn sydd wedi eu colli, eu canfod a’u gweld.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid ydym yn ymateb mewn perthynas â chathod coll neu grwydr.

Hawlio’ch ci coll 

Os yw’r Warden Cŵn wedi codi eich ci fel ci ar grwydr yna, a bwrw bod sglodyn micro ar eich ci a bod y manylion yn gyfredol, neu os oes gan y ci labed enw, ni fyddwn yn rhoi cartref newydd i gi hyd nes y byddwn wedi ceisio canfod y perchennog a chysylltu â nhw, a hyd nes y bydd 7 diwrnod wedi mynd heibio.

Os yw eich ci wedi ei ddwyn i un o’n Cynelau cydnabyddedig, bydd angen i chi dalu’r ffi rhyddhau berthnasol i gyd yn uniongyrchol i’r Cyngor cyn y bydd modd rhyddhau eich ci (gwelwch y Tabl ffioedd isod).

Ci Crwydr

Os dewch chi o hyd i gi crwydr, gallwch gysylltu â ni i ddweud am hyn, a gellir gwneud trefniadau i gasglu neu i fynd â nhw’n syth i’r cynel yn unol â’r wybodaeth gyswllt isod:

  • Dydd Llun – Ddydd Iau 09:00 - 17:00 – Ffôn: 01633 648009
  • Dydd Gwener – 09:00 – 16:30 – Ffôn: 01633 648009
  • Yn yr wythnos ar ôl 17:00 Llun-Iau; ar ôl 16:30 ar ddydd Gwener; trwy’r dydd ar benwythnos a Gwyliau’r Banc - Ffôn: 01495 762200

Y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau

Os ydych chi’n dal ci crwydr y tu allan i oriau swyddfa arferol, dylech gysylltu â’n Hystafell Rheoli ar 01495 762200 am gyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gymryd y ci i’n cynelau cydnabyddedig.  Nid ydym yn cynnig gwasanaeth casglu y tu allan i oriau swyddfa arferol, felly dylech ein ffonio ni ar 01633 648009 y diwrnod gwaith nesaf os ydych chi am i ni ddal neu gasglu ci crwydr.

Ail-gartrefu cŵn nad oes eu heisiau

Anffodus, nid ydym yn gallu ail-gartrefu cŵn nad yw eu perchnogion yn gallu gofalu amdanynt.

Ail-gartrefu cŵn crwydr 

Ble bynnag y bo’n bosibl, bydd cŵn nad ydynt wedi eu hawlio ar ôl 7 diwrnod yn cael eu rhoi i elusen ail-gartrefu sy’n gweithio gyda ni i sicrhau bod cymaint o gŵn â phosibl yn cael cartrefi da.

Os yw ci coll yn sâl neu wedi ei anafu, byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei weld a’i drin gan filfeddyg.  Rydym yn ceisio peidio â rhoi unrhyw gŵn i gysgu, oni bai eu bod yn sâl iawn, yn cael eu hystyried yn rhai peryglus, neu ddim yn gallu cael eu hail-gartrefu gan ein partneriaid elusennol - a byddwn bob amser yn gofyn am gyngor milfeddyg cyn i ni gymryd y cam yma.

Ein ffioedd

Caiff cŵn sy’n mynd i mewn i’r cytiau cŵn eu gwirio ar gyfer salwch neu anafiadau a chânt eu trin gan filfeddyg os oes angen.

Mae gan berchnogion saith diwrnod i hawlio eu ci a gwneir pob ymdrech gan y wardeiniaid a staff y cytiau cŵn i gysylltu â pherchnogion.

Codir ffi am y gwasanaeth hwn y mae'n rhaid ei dalu cyn i'r ci gael ei gasglu (derbynnir arian parod). 

  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl 4 awr £52 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl un diwrnod £108.16 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl dau ddiwrnod £123.60 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl tri diwrnod £142.48 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl pedwar diwrnod £155.53 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl pum diwrnod £174.72 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl chwe arhosiad dros nos £190.32 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ar ôl saith arhosiad dros nos £206.96 y ci
  • Cŵn a gaiff eu hawlio ac sy’n aros yn y cytiau cŵn am gyfnod estynedig (ffi fesul noson) £12.00 y ci

At hynny, os yw'r Cyngor wedi canfod bod angen talu am wasanaeth ychwanegol i'r ci gan gynnwys y ddarpariaeth y tu allan i oriau neu driniaeth filfeddygol, dylid trosglwyddo'r ffioedd i'r perchennog sy'n hawlio’r ci. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau anarferol, rhoddir disgresiwn i Swyddog y Cytiau Cŵn o ran y ffi.

Rhoi sglodyn micro ar eich ci

Mae’n drosedd bod yn berchen ar gi heb fod sglodyn micro arno gyda manylion cyfredol.

I wneud hyn, dylech gysylltu â’ch milfeddyg lleol i drefnu i sglodyn micro gael ei osod ar eich ci.  Bydd y milfeddyg wedyn yn defnyddio sglodyn sy’n cysylltu at gronfa ddata benodol fel www.petlog.org.uk or www.anibase.com

Cŵn Peryglus 

Nid ydym ni’n delio ag adroddiadau am gŵn peryglus.  Os ydych chi’n credu bod ci’n beryglus, dywedwch amdano wrth Heddlu Gwent os gwelwch yn dda.

https://www.gwent.police.uk/cy-GB/cyngor/cyngor-a-gwybodaeth/ac/troseddau-anifeiliaid/

Diwygiwyd Diwethaf: 26/01/2026
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Anifeiliaid a Phlâu

Ffôn: 01633 647621/22

E-bost: adminteam.planningpp@torfaen.gov.uk  

Nôl i’r Brig