Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus

Ar 23 Tachwedd 2021 rhoddwyd cymeradwyaeth i ymestyn a pharhau â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn yn Nhorfaen a disodlodd hyn ein Gorchymyn blaenorol. Bydd y Gorchymyn newydd yn gymwys yn Nhorfaen am gyfnod o 3 blynedd, o 15 Gorffennaf 2022 tan 1 Rhagfyr 2024. Datblygwyd cwmpas y Gorchymyn newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2021. O dan y Gorchymyn newydd mae tri math o gyfyngiad; baw cŵn, mannau gwahardd cŵn, a mannau i gŵn ar dennyn:

1. Cŵn yn Baeddu

Bydd hyn yn berthnasol drwy'r Fwrdeistref Sirol gyfan, lle mae'n drosedd peidio â chael gwared ar faw cŵn o unrhyw dir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo. Nid yw'r drosedd hon wedi newid ers y Gorchymyn blaenorol.

2. Ardaloedd Gwahardd Cŵn

O gymharu â’r Gorchymyn blaenorol, rydym wedi gostwng nifer yr ardaloedd gwahardd cŵn o tua 250 i 140.

Yn yr un modd â'r Gorchymyn blaenorol, mae cŵn yn cael eu gwahardd o diroedd ysgol, mannau chwarae i blant a chaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio( effeithir ar gaeau chwaraeon wedi'u marcio yn unig. Gall fod caeau wedi'u marcio â llinellau gwyn neu linellau brown lle mae'r borfa wedi marw yn ôl. Fel arall efallai bod ffensys, rhwystr neu linell rhaff yn diffinio ardal y cae. Caniateir cŵn o gwmpas ymylon caeau sydd wedi'u marcio a rhyngddynt). Mae cŵn hefyd wedi'u gwahardd o Ardal Bridio Cornicyllod (Ardal Gwlypdiroedd Llynnoedd y Garn) ger Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn.

3. Ardaloedd Cŵn ar Dennyn

Mae hwn yn gyfyngiad nad yw wedi'i fabwysiadu yn Nhorfaen o'r blaen ac mae bellach yn drosedd i adael ci oddi ar dennyn mewn ardaloedd penodol. Dyma'r meysydd penodedig:

  • Gwarchodfa Natur Llynnoedd y Garn ym Mlaenafon (rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser wrth gerdded o amgylch y prif lynnoedd)
  • Llyn Cychod Cwmbrân (rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser wrth gerdded o amgylch y llyn, o amgylch y caffi a’r mannau chwarae i blant)
  • Pob un o 4 mynwent y cyngor - Mynwent Blaenafon, Mynwent Panteg, Mynwent Cwmbrân a Mynwent Llwyncelyn. Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser tra y byddwch o fewn ffiniau’r mynwentydd.

Gweld y Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus ar ein system fapio.

Mae copi o Orchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 2022 i’w weld yma.

Mae ardaloedd lle y gwaherddir cŵn yn ymddangos yn GOCH ac mae mannau lle caniateir cŵn ar dennyn yn ymddangos yn WYRDD. Gan ddefnyddio’r system fapio fe allwch chwilio am ardal benodol a allai fod o ddiddordeb i chi a hynny yn ôl enw stryd, pentref, tref, ward ac ati.

Beth yw’r gosb am beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus- Rheoliadau Cŵn?

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig hysbysiad cosb benodedig o £100 am droseddau sydd wedi'u cynnwys yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Bydd methu â thalu'r hysbysiad cosb benodedig yn golygu y bydd y cyngor yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at ddirwy o lefel 3 ar y raddfa safonol, sydd yn £1,000 ar hyn o bryd.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Environmental Enforcement Team

Ffôn: 01633 647299

Ebost: fixedpenaltynotices@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig