Lles Anifeiliaid

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen bwerau statudol i ymgymryd â dyletswyddau iechyd a lles anifeiliaid yn yr ardal, sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a 2002, Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968, Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006, ynghyd â deddfwriaeth gysylltiedig.

Fel rhan o drefniant cydweithio, mae nifer o swyddogion Tîm Iechyd Anifeiliaid yng Nghyngor Sir Powys yn cyflawni swyddogaethau iechyd anifeiliaid ar ein rhan. 

Mae'r swyddogaethau a gyflawnir gan Bowys yn ardal Torfaen yn cynnwys y canlynol:

  • Archwiliadau safleoedd Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi'u rhaglennu ar safleoedd amaethyddol, ac unrhyw waith gorfodi dilynol yn ôl yr angen
  • Ymateb i bob cwyn / ymholiad sy'n ymwneud â materion Iechyd a Lles Anifeiliaid sy'n ymwneud â safleoedd amaethyddol,
  • Yr holl gofnodi data, cadw cofnodion ac adrodd sy'n ofynnol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer Iechyd a Lles Anifeiliaid yn y meysydd a restrir uchod
  • Arwain yr ymchwilio i bob clefyd hysbysadwy o ran Iechyd Anifeiliaid 

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn ymdrechu i gydymffurfio â'n dyletswyddau i gyfrannu at amgylchedd diogel, iach a theg ac i fonitro a dylanwadu ar driniaeth anifeiliaid, gan orfodi safonau cymwys lle bo'n briodol.

Os oes gennych gŵyn am les anifeiliaid sy'n ymwneud ag anifeiliaid anwes a / neu geffylau, yna dylid rhoi gwybod i'r RSPCA am y mater ar 0300 1234 999 neu sefydliad / elusen lles anifeiliaid arall sy’n addas.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rhai o'r ymholiadau uchod neu ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, cysylltwch â Chyngor Sir Powys ar trading.standards@powys.gov.uk neu rhowch alwad ar 01874 624704.

Am unrhyw ymholiadau brys neu hysbysiadau o glefydau'n ymwneud ag Iechyd Anifeiliaid, ffoniwch Linell Argyfwng Cyngor Sir Powys ar 0845 6027030.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/04/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Safonau Masnach Powys

Ffôn: 01874 624704

Ebost: trading.standards@powys.gov.uk

Nôl i’r Brig