Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11 Medi 2024
Mewn byd lle mae dysgu parhaus yn allweddol i lwyddiant personol a phroffesiynol, mae un o drigolion Cwmbrân wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle i fynd ati i ddysgu.
Penderfynodd John Sterry, 33, o Fairwater, wella ei addysg gyda gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y cyngor yn ôl yn 2021.
Ers hynny, mae wedi dilyn nifer o gyrsiau yn y Pwerdy yng Nghwmbrân, yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a sgiliau digidol, ac erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at astudio Seicoleg i fod yn gwnselydd.
Yn gynharach eleni, cafodd John ei gydnabod fel Dysgwr y Flwyddyn gan adran Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen, yng Ngwobrau Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Ngwent, a hynny am ei ymrwymiad i wella’i hun.
Mae John bellach yn annog eraill sy’n ystyried dysgu sgil newydd neu ddilyn gyrfa newydd, i gofrestru ar gwrs yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.
Dywedodd, “Pan ddechreuais i gyntaf, doeddwn i byth yn dychmygu cymaint y byddwn yn datblygu – nid yn unig o ran sgiliau, ond hefyd o ran hyder. Mae'r gefnogaeth a'r anogaeth a gefais ac yr wyf yn parhau i'w derbyn gan dîm Dysgu Oedolion yn y Gymuned wedi bod yn hynod werthfawr.
“Roedd yn anrhydedd mawr i mi gael fy enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn ac rwyf am annog unrhyw un sy'n ystyried dilyn cwrs i fynd amdani. Mae rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser, waeth beth yw eich oedran neu’ch cefndir, a gall y profiad newid eich bywyd.”
Mae Dysgu oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhad ac am ddim a chyrsiau y codir tâl amdanynt ac maent wedi eu cynllunio i ysbrydoli a chefnogi oedolion yn eu datblygiad personol a phroffesiynol.
Cyflwynir cyrsiau mewn tair canolfan ar draws Torfaen ac maent yn amrywio o sgiliau hanfodol fel Saesneg a Mathemateg i gyrsiau galwedigaethol a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â dosbarthiadau wythnosol.
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae taith John yn ysbrydoliaeth i eraill sy'n wynebu dyheadau tebyg. Mae’n eu hatgoffa bod unrhyw beth yn bosibl gyda dyfalbarhad a gwaith caled.
"Mae ein gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn chwarae rhan hanfodol o ran galluogi ein preswylwyr i ddatblygu eu sgiliau, cefnogi amcanion cynllun sirol y cyngor yn uniongyrchol a meithrin cymuned fwy medrus a gwydn.”
Cynhaliwyd Gwobrau Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yng Ngwent ym mis Mai.
Angela Thomas sy'n dysgu Saesneg fel cwrs ail iaith a Sbaeneg sylfaenol gipiodd gwobr Tiwtor y Flwyddyn, a grŵp astudio Mathemateg TGAU gipiodd gwobr Grŵp y Flwyddyn yn Nhorfaen.
Aeth Gwobr Hwyl, fawreddog Linda Bailey i'r preswylydd lleol Shirley Evens, sydd wedi dilyn nifer o gyrsiau addysg oedolion, yn cynnwys TGAU Mathemateg a Saesneg, ac erbyn hyn mae’r arwain grŵp astudio Mathemateg.
I gael mwy o wybodaeth am Ddysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen a'r cyrsiau sydd ar gael, ewch i www.torfaen.gov.uk neu cysylltwch ar 01633 647647.