Ysgolion yn dadlau dros wyliau ysgol

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Mai 2024
NIMO Coed eva & blenheim debate PR

Coed Eva & Blenheim

Mae dros 100 o ddisgyblion ysgolion cynradd wedi trafod newid gwyliau'r ysgol.

Bu disgyblion Ffederasiwn Coed Efa a Blenheim Road yng Nghwmbrân,  wrthi’n frwd yn dadlau a ddylai gwyliau haf barhau i fod yn chwe wythnos neu a dylid eu gostwng i bump.  

Fe gynhalion nhw'r ddadl yn siambr Canolfan Ddinesig y cyngor, ym Mhont-y-pŵl, lle mae cynghorwyr yn trafod materion yn rheolaidd am y fwrdeistref.

Paratôdd y disgyblion eu dadleuon ymlaen llaw a chawsant gyfle i rannu eu barn ddydd Mercher. Mae hyn yn rhan o gwricwlwm yr ysgolion, sy’n anelu i ddatblygu gallu’r plant i feddwl yn feirniadol.

Meddai Tommy, Blwyddyn 5: “Mae wedi bod yn ddifyr ac yn gyffrous iawn i mi gymryd rhan yn y drafodaeth gyda fy ffrindiau.

“Rwy'n credu y dylem gadw'r chwe wythnos yr un fath, gan fod y tywydd bob amser yn well ym mis Gorffennaf nag y mae ym mis Hydref, ac ni allwn gwrdd â fy ffrindiau i chwarae pe bai’r tywydd yn wael”.

Dywedodd Agnes, Blwyddyn 5: “Mae'r profiad cyfan wedi bod yn ddiddorol iawn. Mae wedi fy ngalluogi i gael persbectif ehangach ar y pwnc wrth wrando ar farn pobl eraill ac weithiau cefais fy mherswadio i newid fy meddwl gan ddadleuon pobl eraill.”

Dywedodd Ceri Johnson, athrawes Blwyddyn 5 yng Nghoed Efa: “Mae wedi bod yn anhygoel i’r plant gael cyfle i ymdrochi’n llwyr yn y profiad, drwy ymweliadau gan gynghorwyr lleol, teithiau, a’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn yr ysgol.

“Mae'r disgyblion wedi gweithio mor galed drwy gydol y broses, felly mae'n wych gweld y cyfan yn dwyn ffrwyth yn y Siambr. Man nhw wir wedi gwneud cynnydd aruthrol.”

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Cyfarwyddwr Gweithredol Plant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae'n wych clywed am y disgyblion wrth iddynt ddefnyddio ein siambr i drafod materion sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae gwyliau ysgol yn bwnc y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei ystyried, felly mae’n amserol iawn!

“Hoffwn ymestyn y cyfle i'n holl ysgolion ddefnyddio neu ymweld â'n siambr fel cam cyntaf tuag at ddeall democratiaeth gan obeithio y bydd yn ennyn diddordeb.” 

Dyma un o'r mentrau niferus a ddefnyddir ledled ffederasiwn Coed Efa a Blenheim i sicrhau amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu i'w disgyblion a'u cadw i ymgysylltu trwy fynd i’r afael a phynciau sy'n berthnasol iddynt hwy.

Mae hyn yn cysylltu â menter ehangach gan Cyngor Torfaen i gadw pob disgybl yn yr ysgol fel rhan o'r Ymgyrch Ddim Mewn Colli Allan.

Os hoffai eich ysgol ddefnyddio siambr y cyngor, cysylltwch drwy e-bost â jessica.gabriel@torfaen.gov.uk.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2024 Nôl i’r Brig