Wedi ei bostio ar Dydd Iau 23 Mai 2024
Maen nhw’n dweud efallai mai gofod yw’r ffin olaf, ond mae mynd ar drywydd bywyd llawn a llewyrchus yn dechrau yma, yn Nhorfaen.
Mae Ffynnu – Bywyd Llawn a Llewyrchus yn ymgyrch llesiant newydd sy’n cael ei harwain gan Adran Datblygu Chwarae Torfaen. Ei nod yw bywiogi trigolion 60 oed a hŷn i gadw’n iach ac actif wrth iddynt heneiddio.
Yn ôl adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, disgwyliad oes iach i fenywod yn Nhorfaen yw tua 55 oed, a 60 i ddynion - y ddau yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru, sef 62 oed.
Er mwyn helpu i leihau'r fath fwlch iechyd, mae nifer o sesiynau Ffynnu wedi eu trefnu ym Mlaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl, sy’n cynnwys gweithgareddau mewn cadeiriau, ymarfer corff ysgafn, cylchedau, a dawns.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae ymgyrch Ffynnu yn gobeithio ysbrydoli grwpiau hen a newydd yn y gymuned i ddod ymlaen i ofyn am gefnogaeth.
Gellir cynnig cymorth ariannol i grwpiau yn y gymuned sy'n hyrwyddo lles a chynhwysiant cymdeithasol, drwy'r amrywiol weithgareddau chwaraeon a chymdeithasol y maent yn eu cynnig.
Hyd yn hyn, mae grwpiau wedi derbyn cefnogaeth i gael offer, rhentu cyfleusterau, a thalu costau hyfforddwr.
Dywedodd Ben Jeffries, Swyddog Datblygu Chwaraeon Torfaen, “Nid ymgyrch yn unig yw Ffynnu; mae'n fudiad. Mae ein sesiynau a'n grwpiau cymunedol sydd eisoes yn gweithredu ar draws y fwrdeistref yn darparu gweithgareddau hanfodol sy'n hyrwyddo iechyd corfforol, gwytnwch meddyliol, ac ymdeimlad o berthyn.
"Rydym yn galw ar fwy o grwpiau i ymrwymo’u cefnogaeth, ac i unigolion sy’n teimlo’r awydd i ddechrau grŵp neu ddosbarth, i ymrwymo i’n cenhadaeth: i sicrhau bod y gymuned 60 oed a hŷn yn Nhorfaen yn fwy ffit ac iach nag erioed.”
Dyma’r amserlen bresennol sesiynau Ffynnu, a gynhelir gan Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen:
- Dydd Llun - Ymarfer corff ysgafn – Canolfan Gymuned Bryn Eithin, Cwmbrân 12:30 - 1:30pm
- Dydd Mercher - Cylchedau ysgafn – Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, 11am-12pm
- Dydd Gwener - Ymarfer corff mewn cadeiriau – Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, 10-11am Ymarfer corff trwy ddawns – Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, 11am-12pm
- Dydd Sul - Dawns – Panteg House, 9:30-10:30am
Ar ben hynny, cynhelir dosbarthiadau Cryfder a Pherfformio yn Windsor Road Tref Gruffydd, bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 11am. Codir tâl.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae'r rhaglen hon yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol gydol oes mewn amrywiaeth o ffurfiau, gyda’r nod o rymuso ein poblogaeth dros 60 i fyw bywydau actif ac atal ffyrdd o fyw ‘eisteddog’.
"Mae'n cyd-fynd yn dda ag amcanion llesiant cynllun sirol y cyngor ac egwyddorion Marmot Gwent, gan ganolbwyntio ar degwch iechyd a lleihau gwahaniaethu ar sail iechyd."
Sut i gymryd rhan?
I ddysgu mwy am Ffynnu a chofrestru, ffoniwch 01633 628936, e-bostiwch ben.jeffries@torfaen.gov.uk neu dilynwch dudalenDatblygu Chwarae Torfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.