Gwobr ysgol Gymraeg yw'r gyntaf yn y DU

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 22 Mai 2024
Ysgol Panteg pupils

Yn ogystal â’r pethau sylfaenol – darllen, ysgrifennu a rhifyddeg – mae disgyblion mewn ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl wedi bod yn dysgu sgil arall – meddwl rhesymedig.

Mae plant mor ifanc â 3 oed wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau sy’n datblygu’n drafodaeth athronyddol wrth iddyn nhw ddatblygu hyder fel rhan o raglen Athroniaeth i Blant Ysgol Panteg.

Yr ysgol yw’r ysgol Gymraeg gyntaf yn y DU i gael statws Arian gan y Gymdeithas Hyrwyddo Ymholiad Athronyddol ac Ystyriaeth mewn Addysg, sy’n goruchwylio’r rhaglen ac sy’n cefnogi ysgolion yn eu datblygiad.

O waith sy’n edrych ar ba mor ddefnyddiol yw technoleg, diogelwch personol a hunanofal, at gwestiynau ar bynciau mawr fel ‘Beth yw cyfeillgarwch?’ a ‘Beth yw gwir hapusrwydd?’, mae plant wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol, gan ganfod eu llais a sut i fynegi eu hunain.

Dywedodd Bethany Llewellyn sy’n arwain y rhaglen yn yr ysgol: “Mae’r rhaglen wedi cefnogi plant ym mhob blwyddyn i fod yn blant sy’n bobl sy’n meddwl.  Rydym ni wedi gweld eu sgiliau meddwl beirniadol yn datblygu mewn ffordd wych dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac maen nhw’n gallu ffurfio’u dadleuon mewn ffordd deimladwy a soffistigedig.

“Fe wnaethon nhw wir fwynhau’r sesiwn ble trafodon ni ‘beth yw cariad?’ oherwydd bod hynny’n rhywbeth yr oedden nhw’n gallu trafod ac ystyried yn ddwfn.”

Dywedodd Ollie, o Flwyddyn 5: “Rwy’n hoffi ein trafodaethau yn y dosbarth oherwydd mae’n caniatáu i fi feddwl am gwestiynau mawr sydd heb un ateb unigol.  Rwy’n hoffi hyn achos ei fod yn cynnwys pawb ac mae pawb yn cael rhoi eu barn.

Ychwanegodd y Pennaeth, y Dr Matthew Williamson-Dicken: “Mae cael achrediad Arian SAPERE yn garreg filltir arwyddocaol i Ysgol Panteg. Mae ein disgyblion yn fy synnu i drwy’r amser – o’u sgiliau siarad dwyieithog i’w hymroddiad i wrando’n weithgar. 

“Mae cymryd rhan mewn rhaglenni fel hyn yn sicrhau ein bod ni’n cynnig profiad cyfoethog ac amrywiol i ddisgyblion, ac mae’n un o’r rhesymau pam fod ein disgyblion yn mwynhau dod i’r ysgol.

"Mae’r wobr yma’n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i feithrin unigolion cyflawn sy’n meddu ar sgiliau meddwl beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant mewn byd sy’n newid yn barhaus."

Mae ymgyrch #DdimYnoColliAllan y cyngor yn ceisio pwysleisio manteision mynd i’r ysgol yn rheolaidd trwy ddathlu llwyddiannau ysgolion.

Am wybodaeth am bresenoldeb mewn ysgolion yn Nhorfaen, ewch at ein gwefan

Diwygiwyd Diwethaf: 22/05/2024 Nôl i’r Brig