Cynllun cerdded i'r ysgol yn taro'r nod

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21 Mai 2024
Griffithstown Primary WOW tracker

Mae deg ysgol gynradd wedi cofrestru ar gynllun i annog plant i gerdded, mynd ar gefn eu sgwter neu feicio i'r ysgol yn rheolaidd.

Mae disgyblion yn cofnodi sut maen nhw'n teithio i'r ysgol bob dydd fel rhan o  Gerdded Unwaith yr Wythnos - neu WOW fel y mae’n cael ei adnabod – menter a lansiwyd gan yr elusen Living Streets, ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Gall disgyblion ennill hyd at 11 bathodyn gwahanol wrth gerdded, beicio neu fynd ar gefn eu sgwter i'r ysgol o leiaf unwaith yr wythnos, a gall ysgolion ddefnyddio'r wybodaeth i lywio a datblygu eu cynlluniau teithio llesol.

Er 2021, mae Cyngor Torfaen wedi helpu 16 ysgol i ddatblygu cynlluniau teithio llesol unigol, sy'n anelu at leihau nifer y disgyblion a staff sy'n teithio i'r ysgol mewn car.

Mae Ysgol Gynradd Griffithstown, ym Mhont-y-pŵl, yn un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yng nghynllun WOW ac yn ddiweddar mae wedi mynd ati i ddatblygu cynllun teithio llesol.

Dywedodd Cerian Pugh, Dirprwy Bennaeth: "Mae Cynllun Teithio Llesol yr ysgol, ynghyd â thraciwr WOW, wedi annog llawer o ddisgyblion i ddefnyddio’u sgwteri a'u beiciau pan fyddent fel arfer wedi dod mewn car.

"Wrth greu man i storio sgwteri a beiciau yn ddiweddar, rydym hefyd wedi gweld gwahaniaeth mawr yn nifer y disgyblion sy’n teithio’n llesol i’r ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae’n Wythnos Cerdded i'r Ysgol yr wythnos hon, sy'n gyfle gwych i deuluoedd weld a allant deithio'n llesol i'r ysgol. Gall hyd yn oed y rhai sy'n byw yn rhy bell i ffwrdd gymryd rhan trwy barcio ymhellach i ffwrdd o'r ysgol a cherdded y pellter sy'n weddill. 

"Fel y dengys menter WOW, gall cerdded neu feicio i'r ysgol unwaith neu ddwywaith yr wythnos wneud gwahaniaeth mawr i maint y traffig ger ysgolion, sy'n fwy diogel ac yn iachach i ddisgyblion." 

Mae ymchwil gan elusen Living Streets yn dangos bod teithiau ceir yn gostwng 30 y cant ger yr ysgolion hynny sy'n cymryd rhan ym menter WOW ac mae cyfraddau cerdded yn cynyddu bron i chwarter.

I gael gwybodaeth am gynllun WOW neu gynlluniau teithio llesol i ysgolion, cysylltwch â  donna.edwards-john@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/05/2024 Nôl i’r Brig