Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Mai 2024
Busnes lleol yw'r sefydliad diweddaraf i gofrestru i fod yn Barth Di-sbwriel.
Aeth staff yn Saunders Valves, yng Nghwmbrân ati i gasglu sbwriel ar hyd Grange Road ddydd Mawrth, i ddathlu achlysur lansio’u hardal ddi-sbwriel.
Byddant nawr yn cynnal sesiynau casglu sbwriel bob pythefnos ar hyd Grange Road ac ar dir parc ar hyd Llanfrechfa Way.
Dywedodd Alicia Newman, cwmni Crane ChemPharma and Energy sy’n berchen ar y ffatri: "'Fel busnes, rydym bob amser yn edrych ar ffyrdd o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned, hyrwyddo cynaliadwyedd a helpu i greu amgylchedd gwyrddach, yn enwedig yn y mannau o amgylch ein cyfleuster newydd.
"Rydym hefyd yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw lles gweithwyr. Mae bod allan yn yr awyr iach a rhyngweithio â chydweithwyr nad ydych fel arfer yn treulio amser gyda nhw yn ffordd wych o feithrin perthynas a rhoi seibiant i’ch meddwl o’ch gwaith o ddydd i ddydd."
Saunders Valves yw’r ail fusnes yn Nhorfaen i gofrestru gyda Cadwch Gymru’n Daclus a Chyngor Torfaen i greu Parth Di-sbwriel.
Maent yn ymuno â Fox Group, yng Nghwmbrân, tîm Celt Plus Cyngor Torfaen ac ysgolion cynradd Croesyceiliog, Coed Efa a Blenheim Road, sydd hefyd wedi cofrestru fel Parthau Di-sbwriel.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol, dros yr Amgylchedd,: "Mae sbwriel yn niweidio'r amgylchedd ac yn cael effaith negyddol ar sut mae pobl yn teimlo am eu cymunedau.
"Mae cael busnesau, ysgolion a sefydliadau i ymuno â ni yn y frwydr yn erbyn sbwriel yn eu hardaloedd lleol yn fuddiol i bawb."
Mae Parthau Di-sbwriel yn fenter gan Cadwch Gymru'n Daclus, sy'n annog busnesau i gadw eu hardaloedd lleol yn rhydd o sbwriel. Maent yn darparu adnoddau fel y gall busnesau roi cyhoeddusrwydd i'w hymrwymiad i fynd i'r afael â sbwriel ac uwch lwytho eu manylion i fap o Barthau Di-sbwriel.
Gall Oliver James, Swyddog Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon y cyngor, gynghori a chefnogi busnesau neu sefydliadau sy'n ystyried cofrestru ar gyfer y cynllun. I gael gwybodaeth, cysylltwch ag oliver.james@torfaen.gov.uk.
Mae lleihau sbwriel yn rhan o ymrwymiad y cyngor i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, ailgylchu mwy a gwneud gwelliannau i'r amgylchedd lleol. Darllenwch y Cynllun Sirol i gal gwybod mwy.