Penodiadau gwleidyddol allweddol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 14 Mai 2024
cabinet members 2024

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Torfaen heddiw, cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i gabinet, pwyllgorau a chyrff allanol y cyngor am y flwyddyn i ddod. 

Gweithred gyntaf y CCB oedd penodi Aelod Llywyddol newydd a Dirprwy Aelod Llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y cyngor ar gyfer y flwyddyn 2024/5. 

Ail-etholwyd y Cynghorydd Rose Seabourne yn Aelod Llywyddol y cyngor a chafodd y Cynghorydd Stuart Ashley ei ethol yn Ddirprwy Aelod Llywyddol. 

Yn dilyn enwebiadau ar gyfer swydd Arweinydd y Cyngor, derbyniodd y Cynghorydd Anthony Hunt y mwyafrif o bleidleisio felly chafodd ei ailethol. Bydd yr Arweinydd hefyd yn gyfrifol am gyllid strategol a gwasanaethau ariannol.

Cafodd y Cynghorydd Richard Clark ei ail-ethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac ef fydd yn gyfrifol am bortffolio Plant, Teuluoedd ac Addysg. 

Cytunwyd y bydd portffolio'r Amgylchedd yn cael ei rannu'n bortffolio'r Amgylchedd a Gwastraff a Chynaliadwyedd ar wahân. 

Dyma’r rhestr lawn o benodiadau i’r cabinet:

  • Aelod Gweithredol, Gwasanaethau Oedolion a Thai – Y Cyng. David Daniels
  • Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg – Y Cyng. Richard Clark
  • Aelod Gweithredol, Cymunedau – Y Cyng. Fiona Cross
  • Aelod Gweithredol, Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cyng. Peter Jones
  • Aelod Gweithredol, yr Amgylchedd – Y Cyng. Mandy Owen
  • Aelod Gweithredol, Economi, Sgiliau ac Adfywio - Y Cyng. Joanne Gauden
  • Aelod Gweithredol, Gwastraff a Chynaliadwyedd – Cyng Sue Morgan
  • Cytunwyd hefyd y dylid ailenwi'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn unol â chyfarwyddiaethau’r cyngor. 

Etholwyd cadeiryddion y pwyllgorau fel a ganlyn:

  • Pwyllgor TaCh yr Economi a'r Amgylchedd – Y Cyng. Stuart Ashley
  • Pwyllgor TaCh Addysg– Y Cyng. Rose Seabourne
  • Pwyllgor TaCh Oedolion a Chymunedau – Y Cyng. Mark Jones
  • Pwyllgor TaCh Plant a Theuluoedd – Y Cyng. Janet Jones
  • Pwyllgor TaCh Adnoddau Trawsbynciol a Materion Busnes – Y Cyng. David Williams

Etholwyd cadeiryddion y pwyllgorau statudol fel a ganlyn:

  • Y Pwyllgor Cynllunio – Y Cyng. Norma Parrish
  • Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cyng. Steven Evans
  • Pwyllgor Pensiynau – Y Cyng. Nathan Yeowell
  • Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cyng. Ron Burnett

Wrth dderbyn ei benodiad yn Arweinydd Cyngor Torfaen, dywedodd y Cyng. Anthony Hunt: "Yn yr un modd â chynghorau ledled y DU, rydym wedi goresgyn heriau yn flaenorol ac mae heriau enfawr o'n blaenau.

"Rwy’n falch iawn o’r ffordd yr ydym wedi mynd i’r afael â’r rhain eleni ac yn y blynyddoedd blaenorol gyda ffocws ar gymunedau, ymyrraeth gynnar a gwelliannau a ffocws di-baid yn y flwyddyn ddiwethaf ar ddata a pherfformiad.

"Rydym wedi gweithio'n galed i ddiogelu gwasanaethau fel ysgolion gymaint ag y gallwn, ac rwy’n falch mai yn Nhorfaen oedd y cynnydd isaf, neu gynnydd cyfatebol yn nhreth y cyngor yng Nghymru gyfan dros y tair blynedd diwethaf. Credaf fod angen i ni barhau i arloesi i fod mor effeithlon ag y gallwn ac i flaenoriaethu'r blaenoriaethau corfforaethol sydd mor bwysig i ni."

Dyrannwyd y 90 sedd ar wahanol bwyllgorau ac is-bwyllgorau yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol. Dyrannwyd 71 o seddi i’r Grŵp Llafur, sef y mwyafrif. Dyrannwyd 12 sedd i’r Grŵp Annibynnol a 7 sedd i Grŵp Annibynnol Torfaen.

Cymeradwyodd y Cyngor yr Aelodau Gweithredol i'r swyddi hyrwyddo canlynol:

  • Hyrwyddwr o Blaid Pobl Hŷn - Y Cyng. David Daniels, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Oedolion a Thai
  • Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Y Cyng. Peter Jones, Aelod Gweithredol Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau
  • Hyrwyddwr Gwrth-dlodi – Y Cyng. Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor
  • Hyrwyddwr Pobl Ifanc - Y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg

Penodwyd hefyd yr Aelodau Eiriolwyr a ganlyn:

  • Hyrwyddwr Hyfforddi a Datblygu Aelodau – Y Cyng. Ron Burnett 
  • Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog – Y Cyng. Gaynor James
  • Hyrwyddwr Gofalwyr – Y Cyng. David Daniels
  • Hyrwyddwr Cynaliadwyedd – Y Cyng. Stuart Ashley
  • Pencampwr Treftadaeth y Byd – Y Cyng. Janet Jones
  • Clefyd Motor Niwron (MND) – Y Cyng. Giles Davies
  • Hyrwyddwr Dementia – Y Cyng. Mandy Owen
  • Hyrwyddwr y Gymuned Sipsiwn Teithwyr – Y Cyng. Sue Malson
  • Hyrwyddwr Iechyd Meddwl – Y Cyng. Nick Byrne

Aeth y cyngor ati hefyd i enwebu i gyrff allanol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen; Tai Cymunedol Bron Afon a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

(Llun: Cyng Fiona Cross; Cyng David Daniels; Cyng Anthony Hunt; Cyng Richard Clark; Cyng Sue Morgan; Cyng Joanne Gauden)

 

Diwygiwyd Diwethaf: 14/05/2024 Nôl i’r Brig