Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 26 Mawrth 2024
Rugby 7's
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Croesyceiliog eu twrnamaint rygbi saith bob ochr rhanbarthol cyntaf i ysgolion.
Daeth cyfanswm o 10 ysgol i gystadlu yng Nghroesyceiliog dros gyfnod o dridiau gyda thimau o flwyddyn 7 i flwyddyn 9 wrthi’n cystadlu. Ymhlith yr ysgolion oedd yn chwarae yn y twrnamaint oedd Croesyceiliog, Pen y Dre, Ebbw Fawr, Sant Cennydd, Ysgol Gymraeg Gwynllyw, Rhisga, Basaleg, Caerllion, Llanwern ac Ysgol Uwchradd Sant Alban.
Trefnwyd y twrnamaint i ddod ag ysgolion at ei gilydd drwy chwaraeon ac mae cynlluniau eisoes i drefnu digwyddiad mwy y flwyddyn nesaf.
Rhannwyd y gemau yn ddwy adran, gyda thimau yn chwarae 6 gêm yr un cyn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol. Enillwyr twrnamaint Blwyddyn 7 oedd Ysgol Gymraeg Gwynllyw, enillwyr blwyddyn 8 oedd Croesyceiliog, ac enillwyr blwyddyn 9 oedd Caerllion.
Dywedodd Finley Clark, disgybl Blwyddyn 8, a sgoriodd gyfanswm o 11 cais i Groesyceiliog: "Rwyf mor ddiolchgar am yr hyfforddiant a gawsom gan Loukas Paraskeva. Mae ei gyngor a’i driciau yn ein helpu ni i fod y gorau y gallwn, a hebddo, ni fyddem yn cael y cyfle i chwarae yn y twrnamaint hwn.”
Ychwanegodd Jack Hale, disgybl blwyddyn 7 o Ysgol Gymraeg Gwynllyw: “Roedd yr awyrgylch yn anhygoel drwy'r dydd, roeddwn wrth fy modd â'r gerddoriaeth, y ffordd y cafodd ei drefnu, ac roedd y teclyn aer mor cŵl.”
Dywedodd Geraint Williams, disgybl blwyddyn 8 o Fasaleg: “Roedd e’n gymaint o hwyl. Ro’n i’n meddwl y byddai pawb yn dadlau, ond mae pawb wedi bod yn dod ymlaen mor dda drwy’r dydd, ac mae’n wych cael chwarae rygbi gyda fy ffrindiau.”
Dywedodd swyddog hwb Undeb Rygbi Cymru, Loukas Paraskeva, a drefnodd y twrnamaint,: “Rwy’n ymfalchïo cymaint yn yr holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn ein twrnamaint. Mae gweld yr holl chwaraewyr yn dangos cymaint o chwarae teg tuag at eu gwrthwynebwyr, rygbi o ansawdd drwy gydol y tri diwrnod a chydweithio mor anhygoel rhwng yr holl ysgolion, yn dangos cymaint o werth chweil oedd trefnu twrnamaint o’r fath. Ni allaf aros i'w wneud yn fwy ac yn well y flwyddyn nesaf!”