Ysgol yn lleihau absenoldeb parhaus

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Mawrth 2024
west mon school masterclass

Mae ysgol uwchradd ym Mhont-y-pŵl wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn absenoldeb parhaus diolch i gynllun arloesol gwobrwyo presenoldeb.

Mae’r cynllun, ar gyfer pob grŵp oedran yn Ysgol Gorllewin Mynwy, yn caniatáu i ddisgyblion ennill pwyntiau ar gyfer pob wythnos llawn maen nhw yn yr ysgol, sy’n gallu cael ei wario wedyn yn Siop Siartiau’r Dosbarth ar fanteision amrywiol.

Ers mabwysiadu’r cynllun ym Medi 2023, mae absenoldeb parhaus wedi gostwng bron i 50 y cant, gyda phresenoldeb ar y cyfan yn cynyddu o 86 i 88.7 y cant.  

Mae disgybl yn cael ei ystyried yn absennol yn barhaus pan fo eu lefel absenoldeb yn disgyn o dan 80 y cant. Mae’n cynnwys absenoldebau wedi eu hawdurdodi a heb eu hawdurdodi.

Roedd yr ysgol eisoes yn rhoi pwyntiau i ddisgyblion am ymddygiad da ond, ers Medi, mae pwyntiau wedi cael eu rhoi am bresenoldeb hefyd gyda disgyblion yn gallu eu defnyddio i “brynu” amrywiaeth o weithgareddau.

Hyd yn hyn eleni, mae 111 o ddisgyblion wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau celf a chrefft, pêl fasged, ioga, dawns a gwneud gemwaith. 

Mae’r rhain wedi eu cyflwyno er mwyn cyfoethogi dysgu’r disgyblion a’u galluogi i roi tro ar bethau eraill y tu allan i’r cwricwlwm. 

Mae mathau eraill o wobrwyon yn cynnwys talebau ar gyfer diwrnodau profiad, pitsa, offer chwaraeon, yn ogystal â gwibdeithiau i atyniadau lleol a digwyddiadau.

Dywedodd Emma Jordan, Pennaeth Ysgol Gorllewin Mynwy: “Rydym yn falch iawn gyda chanlyniadau ein cynllun gwobrwyo presenoldeb sydd wedi cael effaith cadarnhaol ar ysgogiad, ymddygiad a chyrhaeddiad disgyblion.”

"Rydym yn cydnabod fod yna bobl ifanc sy’n dioddef gydag amryw resymau sy’n gallu effeithio ar eu presenoldeb. Yng Ngorllewin Mynwy, rydym wedi cyflwyno cefnogaeth sylweddol i’r disgyblion hynny i’w cefnogi i ddychwelyd i’r ysgol."

Mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd eraill yn y fwrdeistref wedi mabwysiadu cynlluniau ac arferion tebyg sy’n rhan o ymgyrch presenoldeb Cyngor Torfaen – Ddim Yno Colli Allan.

Sefydlwyd yr ymgyrch, sy’n canolbwyntio ar leihau absenoldebau sydd heb eu hawdurdodi a digwyddiadau o gyrraedd yn hwyr, yn Nhachwedd 2022 ac mae wedi cynnwys 16 ysgol hyd yn hyn.

Yn Nhorfaen, y gyfradd presenoldeb ar gyfartaledd i ysgolion yw 90.4%, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol.

Diwygiwyd Diwethaf: 04/03/2024 Nôl i’r Brig