Rhoi gofalwyr ar y map

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Mehefin 2024
Carers Week image

Mae gofalwyr di-dâl wedi cael cais i gyflwyno lluniau fel rhan o brosiect i’w helpu i deimlo’n rhan o gymuned ehangach. 

Caiff y lluniau eu hychwanegu at fap mawr o Dorfaen a’u harddangos i helpu i nodi Wythnos Gofalwyr, sy’n canolbwyntio eleni ar roi gofalwyr di-dâl ar y map.  Postiwch eich llun a’ch lleoliad ar dudalen Facebook Gofalwyr Torfaen erbyn Dydd Gwener, 16 Mehefin.  

Mae gofalwyr di-dâl o bob oedran yn cael eu gwahodd hefyd i gymryd rhan mewn taith gerdded wrth Lyn Cychod Cwmbrân ddydd Mercher, 12 Mehefin.

Bydd y daith 5C yn dechrau am 5pm ym maes parcio Pentre Uchaf, wrth ymyl Oasis Leisure, yng Nghroesyceiliog, a gorffen wrth Gaffi’r Cwt Cychod, ble bydd bwyd a cherddoriaeth fyw.

Gall unrhyw un y byddai’n well ganddyn nhw gerdded taith fyrrach ymuno ym maes parcio Pentre Isaf, yn Llanyrafon, neu o gaffi’r Cwt Cychod am 5.30pm. 

Dywedodd Louise Hook, Gweithiwr Cymorth Gofalwyr Cyngor Torfaen: "Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle gwych i ni ddathlu a diolch i ofalwyr di-dâl am eu gwaith caled a’u hymroddiad.

"Rydym ni’n gobeithio y bydd gofalwyr di-dâl sydd heb ofyn am gymorth o’r blaen yn dod i’r daith i gwrdd â’n tîm i ddysgu pa gefnogaeth sydd ar gael, pan fo ei hangen arnyn nhw.

"Mae’n gyfle gwych hefyd i gwrdd â a rhannu profiadau gyda gofalwyr di-dâl."

Mae nifer o ddigwyddiadau cymunedol hefyd fel rhan o Wythnos Gofalwyr:

* Bydd Hwb Gofalwyr Gwent, Market Street, Pont-y-pŵl, yn cynnal digwyddiadau pob diwrnod yr wythnos nesaf gan gynnwys Dawnsia ‘Da Fi ddydd Llun, Diwrnod Agored Gofalwyr ddydd Mercher a the hufen ddydd Iau. Am fwy o wybodaeth, danfonwch e-bost at gwentcarershub@ctsew.org.uk neu ffoniwch 01495 367564.

* Ymunwch ag Atgofion Chwaraeon am berfformiad cerddorol byw gan Pipe and Slippers, Ddydd Mawrth, 11 Mehefin, 11am-1pm yng Nghwbl Rygbi Cwmbrân. Mae’n rhad ac am ddim a budd lluniaeth. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â karen.burgess@dragonsrugby.wales neu ffoniwch Karen ar 07939 154187. 

Os ydych chi’n ofalwr di-dâl ac angen cefnogaeth ariannol ychwanegol, gallwch wneud cais am Grant Bach Gofalwyr. Ewch i wefan Adferiad am wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau cymorth i ofalwyr sy’n cael eu cynnig gan y Cyngor, cysylltwch â’r Swyddog Gofalwyr sy’n Oedolion, Louise Hook ar 07966 301108 neu louise.hook@torfaen.gov.uk neu’r swyddog gofalwyr Ifanc, Rebecca Elvers ar 01633648113.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/06/2024 Nôl i’r Brig