Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 26 Ionawr 2024
Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio i roi seibiant i ofalwyr di-dâl tra bod rhywun arall yn gofalu am eu hanwyliaid.
Mae Cynllun Pontio’r Bwlch Gwent yn cynnig cyfle i bobl sy’n gofalu am berthnasau neu ffrindiau gymryd seibiant byr o’u rôl gofalu.
Gallai hyn gynnwys mynd i apwyntiad personol, digwyddiad neu gymdeithasu gyda ffrindiau, tra bod y person y maen nhw’n gofalu amdanynt yn cael gofal gan rywun arall.
Mae Allan Jones, 77, o Bont-y-pŵl, yn gofalu am ei wraig sy’n byw â dementia. Gwnaeth gais yn ddiweddar i PGB er mwyn cael gofal dros dro i’w wraig.
Mae gwasanaeth eistedd nawr yn dod i’w gartref pob dydd Sul sy’n galluogi iddo fynd allan o’r tŷ am ychydig oriau ar ei feic.
Dywedodd Allan, “Mae Pontio’r Bwlch yn gynllun anhygoel a hanfodol i ofalwyr di-dâl fel fi. Mae’n fy ngalluogi i gael cefnogaeth hyblyg a dibynadwy i fy ngwraig pan fo angen hynny.
“Rwy’n cael tawelwch meddwl o wybod ei bod hi mewn dwylo da tra fy mod i’n cael seibiant ac yn cymdeithasu gyda ffrindiau ar y beic pob dydd Sul. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fy lles a fy iechyd meddwl. Mae gen i rywbeth i edrych ymlaen ato pob wythnos, sy’n fy helpu i ymdopi gyda heriau bod yn ofalwr.”
I ddefnyddio’r cynllun, mae angen i ofalwyr siarad â’u gweithiwr cymdeithasol neu berson proffesiynol i drafod eu hanghenion a gwirio cymhwyster, mewn sgwrs Beth sy’n Bwysig neu Asesiad Anghenion Gofalwyr.
Unwaith y bydd meini prawf cymhwyster wedi eu bodloni, gall gofalwyr ddewis darparwr gofal.
Gall gofalwyr hefyd ofyn am wasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pethau na allan nhw efallai eu gwneud eu hunain, y tu fewn neu du allan i’r cartref.
Mae PBG yn cael ei redeg gan NEWCIS, elusen sy’n cefnogi gofalwyr yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae’r cynllun ar gael i ofalwyr di-dâl sy’n oedolion a gofalwyr ifanc (o dan 16 oed) sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy neu Dorfaen.
Dywedodd y Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Ofal Cymdeithasol a Thai, "Mae gofalu am un annwyl yn gallu bod yn llethol yn emosiynol ac yn gorfforol, ac mae’n beth cyffredin bod gofalwyr yn esgeuluso eu lles eu hunain dros amser. Dyma pam bod cael gofal seibiant yn hanfodol i helpu i gynnal lles gofalwyr wrth iddyn nhw wneud eu gwaith anhygoel.
"Mae gofal seibiant yn rhoi cyfle am seibiant mawr ei angen i ofalwyr ofalu amdanyn nhw eu hunain, a’u helpu i deimlo eu bod yn gallu ymdopi â’u cyfrifoldebau wedyn. Rwy’n hynod o falch ein bod ni’n gallu cynnig y cynllun yma yn Nhorfaen, ac rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r rheiny y mae ei angen arnyn nhw.
"Peidiwch â cholli’r cyfle yma i gael y gefnogaeth y mae ei hangen arnoch chi ac yr ydych yn ei haeddu. Mae Pontio’r Bwlch yn gynllun arobryn sydd wedi helpu nifer o ofalwyr yng Ngwent i wella ansawdd eu bywyd a’u lles. Cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu berson proffesiynol heddiw i gael gwybod mwy.”
Dysgwch fwy am Pontio'r Bwlch Gwent - NEWCIS