Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Ionawr 2024
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo canlyniadau adolygiad o ddosbarthiadau a gorsafoedd pleidleisio yn Nhorfaen.
Rhaid i awdurdodau lleol adolygu dosbarthiadau etholiadol a lleoliadau gorsafoedd pleidleisio bob pum mlynedd i sicrhau eu bod yn gyfleus ac yn hygyrch i bleidleiswyr.
Argymhellwyd y dylid gwneud newidiadau i 14 o orsafoedd pleidleisio a saith dosbarth ar ôl ymgynghori â’r cyhoedd, aelodau etholedig, cynghorau cymuned, Aelodau’r Senedd a’r Aelod Seneddol.
Fe wnaeth cynghorwyr gefnogi’r cynigion yn ystod cyfarfod cyngor llawn yn gynharach ar ddydd Mawrth. Gallwch ddod o hyd i'r manylion ar ein gwefan.
Bydd y newidiadau yn dod i rym erbyn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ddydd Iau 2 Mai.
Yr etholiad fydd y cyntaf lle bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen neu gerdyn adnabod sy’n cynnwys llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Pa ddogfen neu gerdyn adnabod â llun sy’n dderbyniol.
Os and oes gennych ddogfen adnabod â llun, sy’n dderbyniol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim.
Bydd angen i chi gyflwyno llun fyddai’n addas ar gyfer pasbort, wedi ei dynnu yn erbyn cefndir plaen, golau, gyda llygaid agored, gwallt yn ôl, a heb ffilter. Gellir gwrthod ceisiadau os nad yw'r ffotograffau'n dderbyniol.
Rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn cael Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Dyma sut i fynd ati i gofrestru.
Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu lywodraeth leol.
Mae adolygiad ar wahân o ffiniau cymunedol cynghorau cymuned a threfniadau etholiadol hefyd yn cael ei gynnal. Gwnaed cyfres o argymhellion – dysgwch mwy a dweud eich dweud ar Dweud Eich Dweud Torfaen.