Arolygwyr yn amlygu gwelliannau i ddysgwyr

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 24 Ionawr 2024

Yn ystod mis Ionawr, fe wnaeth arolygwyr Estyn ymweld â chyngor Torfaen i gynnal ymweliad monitro i ddilyn arolygiad craidd a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2022.  

Roedd tîm Estyn ar y safle am dri diwrnod i ystyried cynnydd yn erbyn argymhelliad 1, sef: gwella deilliannau i ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd.  

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg: “Dyma lythyr arolygu cadarnhaol arall sy’n pwysleisio bod ein Prif Weithredwr a’n Cyfarwyddwr Strategol, Plant a Theuluoedd yn parhau i ysgogi gwelliannau ar draws y gwasanaethau addysg. Mae'r cyngor bellach yn dwyn ysgolion a gwasanaethau cymorth i gyfrif yn fwy effeithiol am eu gwaith, sy'n helpu i sicrhau canlyniadau gwell i ddisgyblion.” 

Dywedodd Dr Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg y Cyngor: “Erbyn hyn, mae gennym weledigaeth glir o ran gwella ysgolion a gwasanaethau, ac yn sail i hynny mae ein disgwyliadau uchel a’n lefelau uwch o atebolrwydd. Mae’n braf iawn bod arolygwyr wedi nodi ein perthynas gryfach ag ysgolion, a’n ffocws ar wella presenoldeb mewn ysgolion.”  

Dywedodd Stephen Vickers, Prif Weithredwr Torfaen: “Fe wnaethom nifer o newidiadau sylweddol yn ein system ysgol gyfan, ac erbyn hyn, ar y cyd, maent yn gwella deilliannau ar gyfer disgyblion. Yn gwbl briodol, mae’r arolygwyr wedi tynnu sylw at rai meysydd sy’n peri pryder, a byddant yn parhau i fod yn ffocws i’n ‘hymagwedd tîm o amgylch yr ysgol’ i wella deilliannau. Ni fyddwn yn llaesu dwylo o ran ein her gyson i ysgogi gwelliannau.”  

Cynhelir yr ymweliad monitro nesaf yn nhymor yr haf of 2024.  

Cliciwch yma i weld Llythyr Monitro Estyn.  

Diwygiwyd Diwethaf: 24/01/2024 Nôl i’r Brig