Prosiect garddio'n Ysbrydoli pobl ifanc.

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024
allotments project

Mae prosiect tyfu bwyd newydd sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc i ddatblygu a symud i mewn i addysg, gwaith a hyfforddiant, wedi cael ei lansio gan Brosiect Ysbrydoli Cyngor Torfaen.

Mae disgyblion sydd wedi cael eu cyfeirio at y prosiect o ysgolion uwchradd yn Nhorfaen yn gweithio gyda phrosiect Ysbrydoli i helpu i glirio rhandir nad yw’n cael ei ddefnyddio yng Nghoed Efa.

Bydd cyfnod cychwynnol y prosiect yn mynd tan y Pasg, gyda’r gobaith y gall y bobl ifanc ddechrau tyfu amrywiaeth o gnydau mewn da bryd ar gyfer y misoedd cynhesach.

Byddan nhw hefyd yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau bywyd gwerthfawr, fel garddio, gwaith tîm a datrys problemau, gan weithio ar yr un pryd i wella’u hiechyd a’u lles, a’u haddysg a chyfleoedd gyrfa.

Mae Finlay, disgybl Blwyddyn 11 o Ysgol Gorllewin Mynwy, wedi bod ynghlwm wrth y ddau brosiect rhandiroedd, a dywedodd:

“Mae bod yn rhan o’r prosiect cymunedol wedi fy ngalluogi i adeiladu ar fy sgiliau coginio yn ogystal â fy ngalluogi i ddod yn fwy actif. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl ifanc fel fi yn cael mwynhau rhai o’r profiadau rydw i wedi’u cael. Rwy’n gobeithio parhau â’r prosiect a defnyddio’r sgiliau rwyf wedi’u meithrin i helpu gyda chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol agos.”

Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect rhandir Ysbrydoli yn Nhrefddyn, mae’r prosiect wedi cynnwys dros 80 o bobl ifanc dros dair blynedd ac wedi ennill gwobr yn 2023 am ei ffigys blasus.

Mae Prosiect Ysbrydoli wedi gweithio gyda dros 500 o bobl ifanc 11-20 oed hyd yn hyn, gan gefnogi’r rheiny sydd yn y perygl mwyaf o beidio â bod mewn gwaith addysg neu hyfforddiant, trwy roi cyfleoedd addysg a hyfforddiant amgen iddyn nhw.

Bydd peth o’r cynnyrch sy’n cael ei dyfu yn y safle newydd yn cael ei roi mewn bocsys a’u danfon at fanciau bwyd lleol i helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.

Mae’r prosiect hefyd yn rhan o gynllun ehangach ble bydd bwyd sy’n cael ei dyfu yn y rhandir yn cael ei ddefnyddio i greu bwydlenni mewn caffi hyfforddiant sy’n cael ei redeg gan Ysbrydoli yng Nghanolfan Ddinesig Cyngor Torfaen ym Mhont-y-pŵl, i staff, cynghorwyr ac ymwelwyr.

Dywedodd Gareth Jones, rheolwr Prosiect Ysbrydoli Torfaen: “Rydym yn falch iawn o gael lansio’r prosiect yma gyda’r rhandir, ac rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi profiad cadarnhaol a gwerth chweil i’r bobl ifanc i gyd sydd ynghlwm.”

“Rydym wedi cael cefnogaeth y Gymdeithas Rhandiroedd i gael y llain ac rydym yn gobeithio hefyd cael cefnogaeth Cadwch Gymru’n Daclus i helpu gydag ailddatblygiad y tir i helpu i’w gynnal yn y dyfodol. Mae’r Caffi hyfforddi’n fenter gyffrous ac yn un a fydd yn rhoi sgiliau newydd a chymwysterau mewn coginio a lletygarwch i bobl ifanc yr ydym yn eu targedu. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod y prosiectau yma, gyda’i gilydd, yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan mewn tyfu eu bwyd eu hunain a helpu i gyfrannu at ddiet pobl yn Nhorfaen.”

Mae prosiect Ysbrydoli yn Nhorfaen yn cael ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y DU ac mae’n rhan o Wasanaeth Addysg y Cyngor yn cefnogi Ymgysylltiad a Chynnydd pobl ifanc a gwaith i atal methu â mynd i waith, addysg neu hyfforddiant.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/01/2024 Nôl i’r Brig