Wedi ei bostio ar Dydd Iau 18 Ionawr 2024
Hoffech chi wybod mwy – a chael rhoi eich barn – am y gwaith mae’r cyngor yn gwneud neu’n bwriadu gwneud?
Dewch felly i gyfarfod Panel y Bobl yn y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl am 6pm ddydd Mawrth 30 Ionawr.
Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad fod yn agored i bawb, ni waeth a ydych chi wedi bod yn aelod o banel y bobl o’r blaen neu yn un o’r grwpiau eraill o drigolion ai peidio.
Bydd yr agenda’n cynnwys cyflwyniadau am newidiadau i drefniadau pleidleisio, dull newydd o weithio gyda chymunedau a’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt, a fydd yn y cyfarfod: “Buaswn i’n annog pawb sy’n angerddol o blaid eu cymunedau i ddod i gyfarfodydd Panel y Bobl.
"Mae’n gyfle gwych i glywed am amrywiaeth o wasanaethau allweddol yn uniongyrchol gan swyddogion y cyngor."
Mae Panel y Bobl yn un o nifer o ffyrdd y gall trigolion roi eu barn am newidiadau arfaethedig i wasanaethau, polisïau newydd neu ffyrdd o weithio.
Mae yna wyth o baneli trigolion yn Nhorfaen, gan gynnwys Fforwm Pobl Ifanc Torfaen, tri grŵp annibynnol i rai dros 50 oed ar y cyd ag Age Connects Torfaen, a’r Rhwydwaith Llysgenhadon yr Hinsawdd.
Dysgwch am y paneli gwahanol trwy edrych ar Cymryd Rhan | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Gallwch hefyd gofrestru i gael e-gylchlythyr rheolaidd Cymerwch Ran Torfaen a chael bod ymhlith y cyntaf i glywed am ymgynghoriadau newydd trwy fynd at Cymerwch Ran Torfaen.
Os hoffech chi ddod i’r cyfarfod ar ddydd Mawrth 30 Ionawr, danfonwch e-bost at getinvolved@torfaen.gov.uk i gofrestru’ch diddordeb neu ewch i getinvolved.torfaen.gov.uk i ddysgu mwy.