Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Ionawr 2024
Mae pwyllgor prom disgyblion yn gobeithio y gall busnesau lleol eu helpu nhw i ddathlu diwedd eu harholiadau TGAU.
Hwn fydd y tro cyntaf i brom Ysgol Uwchradd Croesyceiliog gael ei drefnu gan ddisgyblion, a fydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i godi arian dros y misoedd nesaf.
Daeth y Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion at ei gilydd cyn y Nadolig i gwblhau’r trefniadau, sy’n cynnwys apelio at fusnesau lleol i gefnogi ffair codi arian.
Maen nhw hefyd yn apelio am roddion o ran ffrogiau, ategolion ac esgidiau er mwyn sicrhau y gall disgyblion i gyd fwynhau’r digwyddiad.
Dywedodd un o aelodau’r pwyllgor, Fearne Spear, o Flwyddyn 11: “Rydym yn teimlo mai braint yw ein bod ni’n cael gwneud hyn ar ran y disgyblion eraill ac rydym yn edrych ymlaen at weld pob dim yn dod at ei gilydd. Nid pawb sy’n cael y profiad o gynllunio digwyddiad mawr.”
Ychwanegodd Savannah Douglas, sydd hefyd yn rhan o’r pwyllgor: “Mae’n amser mwynhau taith sydd wedi dod i ben, gan roi cyfle i ni ddathlu gyda ffrindiau a dechrau pennod nesaf ein bywydau gyda hwyl.”
Mae’r pwyllgor wedi trefnu bod y prom yn digwydd yng ngwesty Parkway yng Nghwmbrân ar ddydd Gwener 5ed Gorffennaf.
Mae’r tîm o 12 o ddisgyblion yn bwriadu cynnal digwyddiadau gwerthu cacennau a ffair i godi arian ar gyfer y digwyddiad a gofynnir i ddisgyblion awgrymu syniadau ar gyfer y diwrnod mawr.
Mae’r pwyllgor yn gobeithio y gall busnesau lleol neu berchnogion busnes a oedd arfer mynd i’r ysgol gefnogi ffair y prom trwy roi rhodd neu gael stondin.
Dywedodd Natalie Price, Cyfarwyddwr Lles ar gyfer blynyddoedd 10 a 11: “Mae’r pwyllgor wedi defnyddio eu hamser egwyl i gasglu barn disgyblion er mwyn sicrhau eu bob yn gwneud penderfyniadau er budd y grŵp blwyddyn ac, o hyn, cael darlun eglur o sut yr hoffen nhw i’r prom fod."
“Maen nhw’n ymwybodol o oblygiadau cost y prom ac maen nhw’n gweithio’n galed i godi cymaint ag sy’n bosibl i wneud y noson yn ddathliad arbennig iawn ac yn noson gofiadwy y bydd y disgyblion yn cofio am flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd Natalie Richards, Pennaeth Croesyceiliog: “Mae’n wych bod yr ysgol wedi gallu cefnogi’r disgyblion cystal wrth drefnu’r prom. Mae’n bwysig i fi fel, Pennaeth, bod disgyblion blwyddyn 11 yn dathlu eu hamser yn yr ysgol, dathlu a chreu atgofion arbennig.”
Os oes gyda chi fusnes ac rydych yn gallu cefnogi’r ffair – neu os gallwch roi ffrogiau ail-law, ategolion neu esgidiau, cysylltwch â; 2019@croesy.schoolsedu.org.uk – AT SYLW Miss Price PROM.