Cydnabod cyfraniad gofalwyr di-dâl

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Ionawr 2024
Dave

Mae bod yn ofalwyr di-dâl yn rôl sydd aml yn mynd heb unrhyw gydnabyddiaeth, ond, i Dave Mynott, mae ei ymroddiad i gefnogi pobl â dementia a’u hanwyliaid wedi arwain at gael ei anrhydeddu â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM).

Cafodd Dave, o Abersychan, ei enwebu am yr anrhydedd gan Weithiwr Cymorth Gofalwyr Cyngor Torfaen, Louise Hook, a ddaeth i adnabod Dave 8 mlynedd yn ôl pan oedd hi’n Gydlynydd Canolfan Gofalwyr Torfaen. Roedd Dave yn trefnu grŵp dydd Mercher yn y ganolfan ar y pryd ac maen nhw wedi parhau’n ffrindiau ers hynny. 

Yn ôl y cyfrifiad diweddar, mae 10.5% o boblogaeth Cymru, dros 310,000 o bobl, yn ofalwyr di-dâl.  Mae’r rhain yn bobl o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifanc, sydd efallai’n gofalu am berthynas neu gyfaill sy’n sâl, yn fregus, ag anabledd, â phroblemau bod yn gaeth i sylweddau neu broblemau iechyd meddwl, ac nid yw’r person hynny’n gallu dod i ben hebddyn nhw. 

Am y 14 mlynedd diwethaf, mae Dave Mynott wedi gwirfoddoli i gefnogi gofalwyr dementia, y Grŵp Dementia Dydd Mercher sy’n cwrdd yn Amgueddfa Pont-y-pŵl pob wythnos. Mae’r grŵp yn cynnig cefnogaeth emosiynol bwysig i’r rheiny sy’n gofalu am anwyliaid â dementia, pobl â dementia a chyn-ofalwyr, gan gynnig y cyfle hefyd i gymdeithas a chael hwyl.  

Dywedodd Dave, a ofalodd, gyda’i gyn-wraig, am ei fam yng nghyfraith pan oedd dementia arni: “Pan glywais i gyntaf am yr anrhydedd, roedden i’n teimlo y dylwn i wrthod oherwydd y bobl yn y grŵp dementia yw’r arwyr go iawn yn fy marn i. Yna, fe gofiais i’r bobl a fy enwebodd i.  Roeddwn i’n teimlo’n ddiolchgar iawn ac fe benderfynais i dderbyn yr anrhydedd ar ran y grŵp.  Mae’r gefnogaeth yr ydym ni wedi cael o’r gymuned a gan Louise Hook a’r tîm yng Nghyngor Torfaen wedi bod yn wych ac rwy’n edrych ymlaen at barhau’r gwaith trwy gydol 2024.

“Y peth pwysicaf y buaswn yn dweud wrth unrhyw un sy’n ofalwr yw y dylech chi edrych ar eich ôl chi eich hun. Rydych chi, fel gofalwr, yn bwysig, ac mae angen i chi gael gofal. Felly, buaswn i’n annog unrhyw un sy’n darllen hwn ac sy’n gofalu am rywun i ddod i’r grŵp Dydd Mercher, er mwyn cwrdd â gofalwyr eraill a chael amser iddyn nhw eu hunain, hyd yn oed am awr neu ddwy,” ychwanegodd.

Dywedodd y Cyng. David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai yng Nghyngor Torfaen: “Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch a diolch i Dave Mynott. Mae’r gwaith y mae’n gwneud i ddod â phobl sydd wedi eu heffeithio’n uniongyrchol gan dementia, naill a’i bersonol neu fel gofalwyr, ynghyd, yn hynod o bwysig.  

“Hoffwn ddiolch hefyd i bob gofalwr di-dâl yn Nhorfaen.  Mae eu caredigrwydd a’u hymrwymiad yn anfesuradwy ac mae’n hanfodol eu bod yn derbyn pob cefnogaeth. Buaswn i’n annog unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu gyfaill i sicrhau eu bod yn cael yr holl gefnogaeth sydd ar gael.” 

Am fwy o wybodaeth am Glwb Dementia Dydd Mercher, cysylltwch â Dave Mynott yn uniongyrchol ar 07728 482376 neu drwy e-bost: dave.mynott1@gmail.com

Gall gofalwyr di-dâl gael gwybodaeth am gymorth a chefnogaeth ymarferol arall gan Louise Hook trwy ddanfon e-bost at carersupport@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio Hwb Gofalwyr Torfaen ar 01495 753838. Neu, gallwch ddilyn Torfaen Adult Carers a Torfaen Young Carers ar Facebook.

Ewch i weld pa gymorth grant sydd ar gael ar dudalen cymorth i ofalwyr Cyngor Torfaen

Mae Hwb Gofalwyr Gwent, yn Crane Street, Pont-y-pŵl, dan ofal Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru, hefyd yn cynnig cymorthfeydd arbenigol, fel cyngor cyfreithiol, yn ogystal â grwpiau gweithgaredd, cefnogaeth emosiynol a therapïau cyflenwol.  Mae’r hwb ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 10am tan 3pm. Ffoniwch 01495 753838.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 19/01/2024 Nôl i’r Brig