Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 9 Ionawr 2024
Roedd y Cyngor yn drist iawn i glywed bod Lewis Jones, cyn-gynghorydd hir ei wasanaeth ward Trefddyn ym Mhont-y-pŵl, a chyn-Ddirprwy Arweinydd Cyngor Torfaen, wedi marw’n dawel dros gyfnod y Nadolig.
Etholwyd Lewis i’r Cyngor am y tro cyntaf yn 1987 a chynrychiolai ward Trefddyn. Cafodd ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ym mis Mehefin 2004.
Cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd roedd ganddo nifer o gyfrifoldebau gan gynnwys Aelod o’r Cabinet dros Hamdden, Ieuenctid a Diwylliant.
Fe fu Lewis yn cynrychioli’r Cyngor ar nifer o gyrff allanol ac roedd yn gysylltiedig â nifer o bwyllgorau yn ei ward, Trefddyn, gan gynnwys Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Trefddyn, Pwyllgor Carnifal Trefddyn a Chymdeithas Chwaraeon Trefddyn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: “Rhoddodd Lewis gymaint i’r trigolion yn Nhorfaen, fel cynghorydd hir ei wasanaeth Trefddyn ac fel Dirprwy Arweinydd y Cyngor. Roedd hefyd yn gyfaill annwyl ac yn fentor i gymaint ohonom ni sydd wedi ei ddilyn i faes llywodraeth leol. Ar lefel bersonol, roedd hefyd mor gefnogol ac yn llawn anogaeth i mi pan oeddwn i’n gynghorydd newydd, a phan gymerais yr awenau fel Dirprwy Arweinydd wedi iddo gamu i lawr. Roedd Lewis yn gynghorydd diwyd ac effeithiol ac yn eiriolydd cadarn dros ei ardal a’r rheiny a gynrychiolai, ac eto roedd yn gwybod nad oedd atebion syml i faterion cymhleth a bod angen gwaith tîm i’w datrys. Byddwn yn gweld ei eisiau, ac ar ran y cynghorwyr a’r staff yn y Cyngor, hoffwn fynegi ein cydymdeimladau dwysaf â Janet a’u teulu.”
Mae ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Cadog am hanner dydd ddydd Mercher 17eg Ionawr.