Lansio ymgyrch maethu 'gall pawb gynnig- rhywbeth'.

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 8 Ionawr 2024

Mae angen cartref croesawus i blant a phobl ifanc lleol, gan fod mwy na 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Heddiw, cychwynnodd Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu 22 awdurdod lleol Cymru, ar y nod o recriwtio 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026.

Mae Maethu Cymru Torfaen wedi ymuno â’r ymgyrch newydd ‘gall pawb gynnig rhywbeth’, trwy ddefnyddio’u hased gorau – gofalwyr maeth presennol – i rannu eu profiadau realistig o ofal maeth.

Mae’r ymgyrch yn edrych ar y nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl ac sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl er mwyn datblygu’r ymgyrch - gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd a phobl sydd wedi gadael gofal.

Amlygodd yr atebion tri pheth allweddol sy’n atal gofalwyr posibl rhan holi, gan gynnwys:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu’n cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camdybiaethau am y meini prawf i fod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth yma, mae Maethu Cymru wedi defnyddio storïau go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda’r awdurdod lleol yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn dod gyda chyfleoedd helaeth am hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Dechreuodd gofalwyr maeth yn Nhorfaen, Tracy a Richard Perry, faethu yn Hydref 2017 ac maen nhw wedi maethu tri o blant ers hynny, gan gynnwys dau sibling sydd dal yn eu gofal.

Dywedodd Tracy: “Dyw rhai o’r plant ddim wedi cael rhai o’r pethau yr ydym ni’n cymryd yn ganiataol, fel mynd ar wyliau. Mae cael hwyl gyda’n gilydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd plentyn.

“O’r tro cyntaf hwnnw iddyn nhw ddod trwy’r drws, yn llawn ofn, a nawr maen nhw’n gwybod beth yw bywyd teuluol – does dim byd mwy gwerth chweil na gweld eu hwynebau bach yn goleuo a gweld sut maen nhw wedi newid.”

Ar hyn o bryd, mae Cymru wrthi’n newid system yn gyfan gwbl ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau a gynigiwyd yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw o’r system gofal plant.’

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal am blant o fewn y gyfundrefn gofal yng Nghymru’n cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu nid-er-elw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth gan awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen: "Mae gofalwyr maeth ein hawdurdod lleol yn gwneud gwaith anhygoel, gan gefnogi plant trwy gynnig eu sgiliau, profiad, empathi a charedigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel.

“Ond mae angen i ni recriwtio mwy o bobl anhygoel yn ein hardal i sicrhau bod gan bob plentyn lleol sydd ei angen, gartref croesawgar a'r gofalwr maeth cywir ar eu cyfer.

“Pan fyddwch chi'n maethu gyda Maethu Cymru Torfaen, mae'n sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth a chefnogaeth leol a phwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicach fyth, gallwch helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sydd ganddyn nhw.”

Bydd ymgyrch ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ i’w weld ar y teledu, gwasanaethau ffrydio, radio, digidol, cyfryngau cymdeithasol, ac mewn digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. 

Am fwy o wybodaeth am faethu, neu i holi ymhellach, ffoniwch 01495 766669 neu ewch i: Maethu Cymru Torfaen

 

Diwygiwyd Diwethaf: 08/01/2024 Nôl i’r Brig