Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Chwefror 2024
Mae grŵp sy’n galluogi pobl ifanc i siarad â’r cyngor am faterion sy’n effeithio arnynt, wedi cael ei ail-lansio.
Daeth dau ar bymtheg o bobl ifanc o chwe ysgol uwchradd i gyfarfod cyntaf Fforwm Ieuenctid Torfaen ar ei newydd wedd yn Siambr Cyngor Torfaen ddoe.
Dechreuodd y cyfarfod gydag ymarfer adeiladu tîm i weld pa dîm allai greu’r gadair orau allan o falŵns.
Trafodwyd yr hyn y dylai cyfansoddiad y grŵp ei gynnwys; enwebwyd ymgeiswyr i fod yn arweinydd a dirprwy arweinydd ac aethant ati i ddylunio logo newydd.
Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â’r Prif Weithredwr Stephen Vickers, a wahoddodd hwy i ddod yn rhan o broses gwneud penderfyniadau’r cyngor.
Meddai Stephen: "Fel pob awdurdod lleol, rydym yn wynebu rhai heriau anodd. Rwyf am gynyddu amrywiaeth y bobl sy’n cael dweud eu dweud yn y penderfyniadau a wnawn, ac mae lleisiau pobl ifanc yn hollbwysig."
Cyfarfu aelodau'r fforwm hefyd â'r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol, Plant, Teuluoedd ac Addysg, y Cynghorydd Rose Seabourne, Llywydd, Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Plant a Theuluoedd ac Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg.
Meddai’r Cynghorydd Clark: "Pleser o’r mwyaf oedd cyfarfod ag aelodau’r fforwm ieuenctid newydd a oedd i gyd yn llysgenhadon gwych a gynrychiolodd eu hysgolion. Edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau ein bod yn clywed cymaint â phosibl o leisiau pobl ifanc."
Meddai Elizabeth Jacobs, prif ferch yn Ysgol Croesyceiliog: "Roddwn eisiau dod heddiw i leisio fy marn a chyfleu lleisiau disgyblion eraill yn fy ysgol.
“Fe wnes i wir fwynhau dod i adnabod y myfyrwyr o'r ysgolion eraill."
Ychwanegodd Junior Munyoro, prif fachgen Ysgol Croesyceiliog: "Fy hoff ran oedd torri'r iâ pan oedd yn rhaid i ni greu cadair allan o falŵns. Fe wnes i hefyd fwynhau dod i adnabod y bobl eraill."
Dyma’r tro cyntaf i’r fforwm ieuenctid gynnwys cynrychiolwyr cynghorau ysgol o bob ysgol uwchradd – Ysgol Abersychan, Ysgol Croesyceiliog, ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban, Ysgol Gymraeg Gwynllyw ac Ysgol Gorllewin Mynwy.
Trefnwyd y cyfarfod gan Philip Wilson, Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, a drefnodd luniaeth a rhoi llyfr nodiadau a beiro i bob aelod.
Bydd y fforwm yn cyfarfod unwaith y mis, a bydd yn rhan o Gynghrair Ieuenctid newydd Torfaen sydd i’w lansio eleni, a fydd yn dod denu cynrychiolwyr o bob sefydliad ieuenctid ar draws y fwrdeistref.