Wedi ei bostio ar Dydd Iau 29 Chwefror 2024
Mae'r Sul hwn yn nodi pedwerydd Diwrnod o Fyfyrdod blynyddol Marie Curie, sydd wedi'i neilltuo i'r rhai a fu farw yn ystod pandemig Covid.
Mae’r diwrnod cofio yn gyfle i ddangos cefnogaeth i’r bobl hynny a wynebodd profedigaeth yn ystod y pandemig ond na allent ymgynnull gyda theulu a ffrindiau.
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 850 o sefydliadau a miliynau o bobl wedi cefnogi’r Diwrnod o Fyfyrdod.
Meddai’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor: " Rwy’n croesawu ymdrechion Marie Curie i ddod â phobl ynghyd i gefnogi ei gilydd a chofio anwyliaid a fu farw yn ystod y pandemig.”
Gallwch gymryd rhan eleni drwy:
- Ymuno â’r cyfnod o fyfyrdod am hanner dydd, ddydd Sul 3 Mawrth 2024
- Cynnal gweithgaredd myfyrio ar gyfer eich staff neu'r bobl yr ydych yn eu gwasanaethu.
- Rhannu enw'r person neu'r bobl rydych chi'n cofio amdanynt.
Gallwch gael gwybod mwy am y Diwrnod o Fyfyrdod ar wefan Marie Curie.
Elusen Marie Curie sy’n darparu’r cyllid mwyaf yn y DU ar gyfer ymchwil gofal lliniarol a diwedd oes.