Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Heddiw, cymeradwyodd Cyngor Torfaen cynigion terfynol y gyllideb ar gyfer 2024/25 a gosodwyd cynnydd o 4.95 y cant yn nhreth y cyngor.
Bydd yr adroddiad, a gefnogwyd gan gynghorwyr, yn gweld cynnydd cyffredinol yn nhreth y cyngor i gartref band D o £73.13 y flwyddyn nesaf (neu £1.41 yr wythnos) i £1,550.57 o Ebrill ymlaen, ac mae’n cyflwyno:
- Codiad o £3.18 miliwn neu 4.32% i ysgolion, a £462,000 yn ychwanegol i ymestyn Ysgol Crownbridge
- £37.6 miliwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion
- £23.7 miliwn ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol i blant
- Arian i gefnogi bron i 10,000 o gartref yn Nhorfaen trwy’r cynllun Gostwng Treth y Cyngor
- Gwastraff ac Ailgylchu £9 miliwn, Priffyrdd £4.1 miliwn, Strydlun £3 miliwn
- £517,000 i dalu’r cynnydd mewn biliau ynni yn y gyfarwyddiaeth economi ac amgylchedd
- £357,000 i fynd i’r afael â phwysau costau mewn gwastraff ac ailgylchu
- £250,000 i helpu’r rhai sy’n gadael yr ysgol i fynd i brentisiaethau a chyflogaeth gyda’r cyngor
- Dros £7 miliwn i ariannu chwyddiant mewn cyflogau a phensiynau staff
- Arian ar gyfer Fferm Gymunedol Greenmeadow, cyfanswm o £576,000, i gefnogi costau cau ar gyfer ailddatblygu, cyn ailagor yn 2025.
Cyllideb net y cyngor yw £232 miliwn sydd, gydag incwm a grantiau penodol yn rhoi cyllideb gros o £342 miliwn ar gyfer 2024/25.
Cafodd y cyngor gynnydd o 3.49% y cant neu £6 miliwn mewn arian cyffredinol gan Lywodraeth Cymru, sy’n gyfanswm o £178 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau: “Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae Torfaen wedi cymeradwyo un o’r codiadau isaf yng Nghymru yn nhreth y cyngor. Serch hynny, mae’n werth cofio pob tro fod treth y cyngor ond yn rhyw 16% o’n hariannu i gyd, gyda’r mwyafrif yn dod trwy grant cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.
“Hyd yn oed yn y dyddiau anodd yma i arian llywodraeth leol, bydd y gyllideb hon yn cadw gwasanaethau lleol i fynd ac yn cadw biliau treth y cyngor mor isel â phosibl. Rydym wedi pontio bwlch o dros £11 miliwn i ddod â’r gyllideb hon trwy fod yn bwyllog ac yn gorfforaethol gyda rheolaeth ariannol wydn; arbedion mewnol; a newidiadau i wasanaethau sy’n effeithio cyn lleied â phosibl ar y cyhoedd. Rydym yn gwerthfawrogi fod chwyddiant a chostau byw yn gosod pwysau ariannol ar bawb, felly mae gan y cyngor Gynllun Gostwng Treth y Cyngor sy’n rhoi blaenoriaeth i gefnogi bron i 10,000 o gartrefi ar incwm isel.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: “Mae rhagolygon ariannol y cyngor yn parhau’n heriol gyda bwlch o £35.2 miliwn mewn ariannu i’w ddisgwyl yn Nhorfaen dros y pedair blynedd nesaf. O ystyried y pwysau sylweddol yr ydym yn disgwyl yn 2025/26, dyw ein cynllunio ariannol byth yn peidio, ac mae gwaith ar y gyllideb nesaf eisoes yn digwydd.
“Mae’n werth nodi hefyd y bydd tua £49 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y fwrdeistref trwy Waith Cyfalaf y flwyddyn nesaf, gan gynnwys buddsoddi mewn Ysgol Gynradd Maendy newydd; ymestyn ysgol Crownbridge; adeiladu 2 faes chwaraeon pob tywydd newydd; parhau buddsoddiad yn y Fferm Gymunedol a chefnogaeth barhaus ar gyfer grantiau cyfleusterau anabledd i helpu pobl i aros yn eu cartrefi.”
Mae’r cyngor hefyd yn casglu’r praeseptau ar gyfer cynghorau cymuned y fwrdeistref a Chomisiynydd Heddlu a throsedd Gwent, ac mae’r praesept hwnnw wedi codi 7.7 y cant i £349.52 i bob aelwyd.
I weld yr adroddiad ewch i wefan y cyngor.