Gweinidogion yn ymweld â gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Chwefror 2024
Ministers visit to MyST

Yr wythnos yma, fe wnaeth Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, a Julie Morgan, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, ymweld  â Rhaglen Partneriaeth Ranbarthol yn Nhorfaen sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth.

Mae MyST, neu ‘Fy Nhîm Cymorth a sefydlwyd yn 2004, yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy’n cynnwys cynrychiolwyr Gwasanaethau Plant o bob un o Awdurdodau Lleol Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae MyST yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob cwr o’r rhanbarth, drwy ystod o wasanaethau therapiwtig sy’n eu galluogi i ddychwelyd o ofal preswyl y tu allan i’r sir neu eu hatal rhag gorfod byw mewn gofal preswyl y tu allan i'r sir.

Fe wnaeth y gweinidogion ymweld â’r gwasanaeth rhanbarthol ar safle hen Ysgol Gynradd Victoria, Abersychan, lle cawsant gyfarfod â rhai o’r partneriaid, timau a theuluoedd sydd wedi elwa o’r gwasanaeth.

Cawsant gyfle hefyd ddysgu am rai o’r dulliau seiliedig ar dystiolaeth y mae MyST yn eu defnyddio i wella canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc.

Gall y trawma a rhai o’r heriau cychwynnol y mae plant sy’n cael cymorth drwy MyST yn eu hwynebu, gynnwys camddefnyddio sylweddau, cam-fanteisio rhywiol a hunan-niweidio.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle:  “Rwy’n falch iawn o weld gwaith anhygoel MyST i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn ein cymdeithas. Maen nhw’n cynnig gwasanaeth hanfodol sy’n helpu plant i aros mewn cysylltiad, yn ddiogel ac yn iach yn eu cymunedau.

“Rwy’n llawn edmygedd o ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff a gwydnwch a llwyddiannau’r bobl ifanc a’u teuluoedd, gofalwyr maeth a staff preswyl.  Hoffwn ddiolch iddyn nhw am rannu eu profiadau a’i dealltwriaeth gyda ni heddiw.”

Symudodd Rhaglen Ranbarthol MyST i hen gartref Ysgol Gynradd Victoria yn 2020, ar ôl cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae bellach yn fan diogel i bobl ifanc lle gallant deimlo’n gyfforddus i gymryd rhan a chael mynediad at ystod o gyfleusterau a gweithgareddau, fel therapïau unigol, gwaith teulu, cyfarfodydd cyfan o amgylch y plentyn a mewnbwn addysgol a’r cyfan oll gyda’r nod o gadw plant yn eu cymunedau lleol, gyda’u teuluoedd, gofalwyr maeth, ysgolion a ffrindiau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Rwy’n falch o gefnogi MyST a’r gwaith anhygoel y maent yn ei wneud ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl cymhleth. Mae MyST yn fwy na gwasanaeth yn unig, mae'n siwrnai o drawsnewid ac iachâd i'r bobl ifanc a'u teuluoedd.

“Mae’n wasanaeth hollbwysig sy’n sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl nac yn cael ei anghofio, a bod pob plentyn yn cael cyfle i fyw bywyd bodlon a hapus. Cymeradwyaf staff a phartneriaid MyST am eu hymrwymiad a’u hangerdd, ac estynnaf fy llongyfarchiadau dwys i’r bobl ifanc am eu dewrder a’u cyflawniadau.”

Comisiynir MyST gan Fwrdd Partneriaeth Plant a Theuluoedd Gwent gyda thimau wedi’u lleoli yn Nhorfaen, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent a Chasnewydd.

I gael mwy o wybodaeth am MyST, ewch i’r wefan: www.mysupportteam.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2024 Nôl i’r Brig