Rhoi Tadau ar ben ffordd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Chwefror 2024
For Dads, By Dads Visit at The Grange University Hospital (1)

Mae tad i ddau o blant a dyn busnes llwyddiannus wedi dweud sut mae rhaglen rhianta wedi trawsnewid ei ffordd o fod yn dad ac wedi gwella’i les.

Ymunodd Michael O’Neil, 39, o Gwmbrân, â rhaglen I Dadau, Gan Dadau Cyngor Torfaen yn Chwefror 2023, ar ôl i’w wraig, Hazel a’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Babanod Amenedigol (PIMHS) argymell hynny.

Yn ystod y rhaglen 10 wythnos, cymerodd Michael ran mewn amrywiaeth o weithdai i ddysgu am rianta, iechyd a maeth, ysmygu, gamblo, cymorth cartref pediatrig, gwersi seicoleg, yn ogystal â strategaethau i ymdopi â straen a phryder.

Rhoddodd le cefnogol hefyd iddo gysylltu â a dysgu gan dadau eraill trwy drafodaethau grŵp ac amser ‘cerdded a siarad’ yn y parc ar ddechrau pob sesiwn.

Mae Michael nawr yn annog tadau newydd neu ddarpar dadau, i ystyried ymuno â’r rhaglen nesaf, a fydd yn dechrau ddydd Iau, 22 Chwefror, 7pm yng Nghanolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl.

Trwy ymuno, bydd tadau hefyd yn cael mis o aelodaeth am ddim i’r gampfa trwy Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, a chyfradd lai am 5 mis wedyn a chyfleoedd hefyd i fynd i gemau Clwb Pêl-droed Casnewydd a thîm rygbi’r Dreigiau.

Dywedodd “Roedd yn ymddangos fel peth da i gwrdd â thadau eraill ac roedd y pynciau’n taro gyda fi. Mae’r cwrs wedi fy ngwneud yn fwy ystyriol wrth fod yn dad, yn yr hyn rwy’n gwneud ac yn fy ffordd o feddwl.  Rwy’ hyn yn oed wedi mynd yn ôl i’r gampfa, sydd wedi rhoi hwb i fy egni a fy hwyliau.”

“Rhowch dro arno, does dim i’w golli.  Mae’n golygu cwpwl o oriau o’ch amser, a byddwch chi’n elwa cymaint ohono.  Cofrestrwch a dewch i weld drosoch chi’ch hun.”

Mantais nodedig yw y gall tadau gysylltu â a ffurfio cyfeillgarwch gyda thadau eraill, gan greu rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol cryf a fydd yn parhau ar ôl y rhaglen.

Ychwanegodd Michael, sy’n berchen ar Mighty Duck Marketing a ManOfTheMatchFootball -  busnes anrhegion a phrintiau pêl-droed: “Rwy’ wedi gwneud ffrindiau da, rwy’n gallu siarad yn rheolaidd a rhannu profiadau â nhw. Rydym yn dal i gyfarfod yn rheolaidd, weithiau gyda’n teuluoedd, weithiau am beint. Mae’n dda cael pobl sy’n deall eich sefyllfa, ac sy’n gallu cynnig cyngor neu glust i wrando.”

Hyd yn hyn, mae I Dadau, Gan Dadau wedi cefnogi dros 60 o dadau ar eu taith o fod yn rheini.

Unwaith y bydd ar ben, mae tadau hefyd yn cael y cyfle i gofrestru ar gwrs Rhianta Cylch Diogelwch, cwrs rhianta ar sail ymlyniad sy’n edrych ar sut i feithrin perthynas  diogel rhwng rhiant a phlentyn .

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:

“Mae stori Michael yn dangos grym trawsnewidiol rhaglen I Dadau, Gan Dadau wrth feithrin cymuned gefnogol i dadau, gwella’u sgiliau rhianta, a thwf personol.

“Mae ei daith o fod yn ddyn busnes prysur at fod yn dad mwy ystyrlon yn pwysleisio pwysigrwydd cynlluniau o’r fath wrth ddatblygu cysylltiadau teuluol cryfach a hyrwyddo lles plant a rhieni fel ei gilydd.”

Gall tadau newydd a darpar dadau sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y rhaglenni ‘For Dads by Dads’ neu’r rhaglen Rhianta Cylch Diogelwch, lenwi’r ffurflen archebu ar-lein yma. 

Fel arall, cysylltwch â Jacob.guy@torfaen.gov.uk neu gareth.wall@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 09/02/2024 Nôl i’r Brig