Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Chwefror 2024
Cafodd disgyblion y cyfle i ddefnyddio siambr Cyngor Torfaen i gynnal cyfarfod eu cyngor eu hunain yr wythnos yma.
Cafodd pymtheg aelod o grŵp senedd Ysgol Croesyceiliog y cyfle i siarad â’r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio cyn cynnal eu cyfarfod eu hunain.
Mae cyngor y disgyblion yn cynnwys pum pwyllgor sy’n canolbwyntio ar bynciau sy’n cynnwys lles, cydraddoldeb, dysgu, gwella’r amgylchedd a datblygu perthnasau cymunedol.
Mae’r pwyllgorau cynnwys cynrychiolwyr pob grŵp oedran ac maen nhw’n gwneud awgrymiadau i’r senedd ac uwch dîm arweinyddol yr ysgol.
Rhai fel cynlluniau ar gyfer cymuned codi arian i’r ysgol, clwb garddio a thîm hoci bechgyn.
Dywedodd y Prif Fachgen, Junior Munyoro: “Roedd yn brofiad cadarnhaol i ni i gyd, roedd yn ddiddorol dysgu sut mae’r cyngor yn gweithio, mewn awyrgylch braf iawn.”
“Roedd yn ddefnyddiol iawn ac roedd yn bwysig dangos sut rydym ni’n cynnwys llais disgyblion yng Nghroesyceiliog.”
Ychwanegodd y Brif Ferch, Elizabeth Jacobs: “Fel menyw mewn gwleidyddiaeth yn fy ysgol, roeddwn i’n teimlo wedi fy nerthu ac yn falch o gael siarad â chynghorwyr heddiw, yn enwedig wrth bwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth ledled yr ysgol.”
Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Sarah Wilkie, sy’n helpu i redeg y senedd: “Rwy’n hynod o falch o’n disgyblion heddiw, roedden nhw’n cynrychioli gwerthoedd yr ysgol, ‘dysgu, parch ac uchelgais’ trwy gydol y diwrnod.”
“Roedd yn gyfle gwych iddyn nhw ddefnyddio Siambr y Ganolfan Ddinesig ar gyfer eu cyfarfod, ac mae’n dangos bod eu gwaith caled yn cefnogi newidiadau cadarnhaol ar draws yr ysgol.”
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae strwythur Senedd eich ysgol yn wych, mae’n caniatáu i’r disgyblion i gyd roi eu barn a chyfrannu at effeithiau cadarnhaol ym mywyd yr ysgol.”
Ymunodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt a’r Cyng. Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio â’r Cynghorydd Clark.
Gall ysgolion sydd â diddordeb mewn ymweld â Siambr y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl gysylltu â Swyddog Ymgysylltiad a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc, Philip Wilson ar philip.wilson@torfaen.gov.uk