Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Chwefror 2024
Roedd hi’n dymor newydd ac yn ddechrau newydd i dri phennaeth newydd sydd wedi ymuno ag ysgolion yn y Fwrdeistref.
Mae Rhodri Thomas wedi cymryd yr awenau fel pennaeth yn Ysgol Abersychan, sef ysgol uwchradd â ganddi dros 700 o ddisgyblion.
Daw Mr Thomas â chyfoeth o brofiad fel cyn Uwch Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymunedol Porth yn Rhondda Cynon Taf sydd hefyd wedi gweithio mewn rolau uwch-arwain mewn pedair ysgol arall.
Mae Keri Smith wedi cymryd yr awenau yn Ysgol Gynradd Nant Celyn yng Nghwmbrân, sydd â dros 400 o ddisgyblion.
Mae gan Ms Smith dros 17 mlynedd o brofiad o addysgu, a chyn hyn roedd ganddi rolau uwch-arwain gan gynnwys sawl swydd pennaeth mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent a Chasnewydd.
Sarah Pugh yw pennaeth newydd Uned Cyfeirio Disgyblion y Cyngor, sef lleoliad sy’n darparu addysg amgen ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gallu mynychu ysgolion prif ffrwd.
Mae gan Mrs Pugh bron i 20 mlynedd o brofiad o addysgu a hithau wedi addysgu Cymraeg a Ffrangeg mewn sawl ysgol uwchradd. Yn fwy diweddar, mae Sarah wedi gweithio mewn swyddi uwch-arwain mewn dwy Uned Cyfeirio Disgyblion arall yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn penodiad chwe phennaeth newydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Hoffwn longyfarch y penaethiaid newydd ar eu penodiadau a’u croesawu i’w rolau. Maen nhw wedi profi eu hymroddiad, eu harbenigedd a’u hangerdd dros addysg a byddant yn parhau â hyn nawr yn Nhorfaen.
“Rwy’n hyderus y byddant yn arwain yr ysgolion hyn i gyflawni rhagoriaeth a llwyddiant ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw a’u cefnogi yn eu hymdrechion.”
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i godi cyrhaeddiad addysgol, ac i helpu pobl ifanc ac oedolion i ennill y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol, a bydd y penodiadau hanfodol hyn yn gymorth i ddisgyblion ar y siwrnai honno.”