Swyddfa Tŷ Blaen i gau ar gyfer taliadau cyhoeddus

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 2 Chwefror 2024
Ty Blaen

Bydd swyddfa Tŷ Blaen y Cyngor yn Y Dafarn Newydd yn safle gweithredol yn unig o ddydd Llun 12 Chwefror.

Mae’n golygu na fydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu ymweld â’r swyddfa mwyach i wneud taliadau nac i drefnu apwyntiadau

Gallwch dalu ar-lein trwy ein porth ar-lein diogel neu wyneb yn wyneb yn Y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl bob dydd Llun a dydd Mercher rhwng 9am a 1pm, a rhwng 1.30pm a 4.30pm.

Neu, gall ein trigolion ffonio 01495 762200

Gallwch dalu ar-lein yma

Diwygiwyd Diwethaf: 02/02/2024 Nôl i’r Brig